Godro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Godro gyda peiriant
Godro gyda llaw

Y weithred o dynnu llefrith allan o bwrs anifail, megis buwch, gafr neu ddafad, yw godro. Gellir godro gwartheg gan ddefnyddio dwylo neu beiriant.

Caiff godro gyda llaw i gyflawni drwy dylino a tynnu ar dethau pwrs yr anifail. Bydd y person sy'n godro yn eistedd ar stôl fel rheol, gan chwistrellu'r llaeth i mewn i fwced rhwng eu coesau.

Mae peiriant godro yn tynnu'r llefrith allan drwy ddefnyddio gwactod. Mae cypannau teth y peiriant yn cael eu cysylltu i dethau'r anifail. Mae'r pwysedd awyr yn y cypannau yn cyfnewid yn gyson, maen't yn creu gwactod, ac yna'n dychwelyd i bwysedd arferol, gan achosi i'r llefrith gael ei dynnu heb niweidio tethau'r anifail. Mae'r llefrith yn teithio o'r cypannau trwy bibellau at danc mawr. Gellir godro nifer fawr o anifeiliaid ar unwaith fel hyn.

Cyferiadau[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:
Wiktionary-logo-cy.png
Chwiliwch am Godro
yn Wiciadur.