Glyndŵr Michael

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Crwydryn di-gartref, anllythrennog oedd Glyndŵr Michael (4 Ionawr 1909 - 24 Ionawr 1943).[1]

Ganed Glyndŵr yn Aberbargod, Sir Gaerffili. Glöwr oedd ei dad, ond fel gyflawnodd hunanladdiad drwy drywanu ei hun yn ei wddf pan oedd Glyndŵr yn bymtheg mlwydd oed. Bu farw ei fam pan oedd Glyndŵr yn dri deg un mlwydd oed. Crwydrodd Glyndŵr, i Lundain ble y bu'n byw ar y stryd. Cyflawnodd Glyndŵr hunanladdiad drwy fwyta gwenwyn llygod mawr mewn warws wâg ger King's Cross, Llundain ym mis Ionawr 1943. Ychydig iawn sy'n hysbys am ei fywyd.

Denyddiwyd corff Glyndŵr Michael mewn gweithrediad hocedu milwrol pwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd o'r enw Operation Mincemeat a gynlluniwyd yn rhannol gan Ian Fleming. Gwisgwyd corff Glyndŵr Michael mewn lifrau Uchgapten y Royal Marines a gwneud iddo edrych fel petai wedi bod wedi'i ladd mewn brwydr filwrol, tra'n cario bag dogfennau oedd wedi ei glymu'n sownd i'w law efo cadwyn. Rhoddwyd iddo'r ffugenw ac adnabyddiaeth newydd o Uchgapten William Martin. Rhan allweddol bwysig o'r cynllun oedd fod y bag dogfennau yn cynnwys dogfennau cudd-wybodaeth ffug a oedd yn crybwyll mai amcan Lluoedd y Cynghreiriaid oedd goresgyn y Natsïaid drwy ymosod ar, a goresgyn Groeg; tra mewn gwirionedd, ymosod ar Sisili oedd y bwriad. Ar ôl gollwng corff yr 'Uchgapten William Martin' oddi ar long danfor Brydeinig yn agos at arfordir Sbaen, y gobaith oedd y buasai'r corff ynghyd a chynnwys y bag dogfennau yn cael ei ddarganfod gan uwch-swyddogion y Natsïaid gan eu harwain i atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd yng Ngroeg, a gadael Sisili yn fwy agored i niwed. Roedd y cynllun yn llwyddiannus, a olygodd fod goresgyniad Sisili gan Luoedd y Cynghreiriaid wedi mynd yn eithaf llyfn, gyda nifer gymharol fychan o golledion. Arbedwyd miloedd o fywydau oherwydd llwyddiant y cynllun.

Claddwyd corff Glyndŵr Michael mewn angladd filwrol yn Sbaen gyda carreg fedd yn nodi ei enw fel 'Uchgapten William Martin'. Datgelodd Llywodraeth Prydain wir adnabyddiaeth y corff ym 1998, ac ychwanegwyd y llinellau: "Glyndwr Michael; Served as Major William Martin,RM" i'w garreg fedd [2].

Cyfeiriadau[golygu]