Gemau rhagbrofol UEFA yng Nghwpan y Byd FIFA 2022

Oddi ar Wicipedia
Gemau rhagbrofol UEFA yng Nghwpan y Byd FIFA 2022
Enghraifft o'r canlynolqualification event Edit this on Wikidata
Dyddiad2022 Edit this on Wikidata
Rhan o2022 FIFA World Cup qualification Edit this on Wikidata
Dechreuwyd24 Mawrth 2021 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd gan2018 FIFA World Cup qualification (UEFA) Edit this on Wikidata
LleoliadEwrop Edit this on Wikidata
Yn cynnwys2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group A, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group B, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group C, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group D, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group E, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group F, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group G, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group H, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group I, 2022 FIFA World Cup qualification – UEFA Group J Edit this on Wikidata

Mae adran Ewropeaidd o gystadleuaeth Cwpan y Byd FIFA 2022 yn gweithredu fel gemau rhagbrofol (neu 'gemau cymhwyso') ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022, sydd i'w gynnal yn Qatar, ar gyfer timau cenedlaethol sy'n aelodau o Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewropeaidd (UEFA).[1] Mae cyfanswm o 13 slot yn y twrnamaint olaf ar gael i dimau UEFA.[2]

Er gwaethaf rhwystrau COVID-19, disgwylir iddo gymryd lle yn Qatar rhwng 21 Tachwedd a 18 Rhagfyr 2022. Dyma fydd y Cwpan Byd cyntaf erioed i gael ei gynnal yn y byd Arabaidd,[3] a hwn fydd yr ail Gwpan y Byd a gynhelir yn gyfan gwbl yn Asia ar ôl cynnal twrnamaint 2002 yn Ne Korea a Japan.[a] Y twrnamaint fydd yr olaf i gynnwys 32 o dimau, gyda chynnydd i 48 tîm wedi'i drefnu ar gyfer twrnamaint 2026 yn yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada. Y pencampwr cyfoes (yn dilyn Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 yw Ffrainc.[4]

Oherwydd gwres llethol yn Qatar yn yr haf, cynhelir y Cwpan Byd hwn rhwng diwedd mis Tachwedd a chanol mis Rhagfyr, gan ei gwneud y twrnamaint cyntaf i beidio â chael ei gynnal ym mis Mai, Mehefin, neu Orffennaf; mae i'w chwarae o fewn amserlen lai o oddeutu 28 diwrnod.[5]

Statws gwledydd UEFA mewn perthynas â Chwpan y Byd FIFA 2022:      Timau wedi cymwyso      Fe all y timau gymhwyso      Timau a ddilewyd      Nid yw'r genedl yn aelod o UEFA

Ymgeiswyr[golygu | golygu cod]

Ymunodd pob un o'r 55 tîm cenedlaethol cysylltiedig FIFA o UEFA yn y rownd cymhwyso hy a fyddant yn ennill lle yn y rownd terfynnol yn Qatar.

Ar 9 Rhagfyr 2019, rhoddodd Asiantaeth Gwrth Gyffuriau'r Byd waharddiad pedair blynedd i Rwsia i ddechrau o bob digwyddiad chwaraeon mawr, ar ôl i RUSADA (Russian Anti-Doping Agency) fethu â throsglwyddo data labordy i arolygwyr.[6] Fodd bynnag, gall tîm cenedlaethol Rwsia ddal i gystadlu, gan fod y gwaharddiad ond yn berthnasol i'r twrnamaint olaf i benderfynu pencampwyr y byd. Roedd dyfarniad WADA yn caniatáu i athletwyr nad oeddent yn ymwneud â dopio gystadlu, ond gwaharddwyd defnyddio baner ac anthem Rwsia mewn digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr.[7] Cafodd apêl i'r Llys Cyflafareddu dros Chwaraeon ei ffeilio,[8] ond cadarnhawyd penderfyniad WADA ond gostyngwyd y gwaharddiad i ddwy flynedd.[9] Roedd dyfarniad CAS hefyd yn caniatáu i'r enw "Rwsia" gael ei arddangos ar wisgoedd os yw'r geiriau "Neutral Athlete" neu "Neutral Team" yr un mor amlwg.[10] Os yw Rwsia yn gymwys ar gyfer y twrnamaint, ni fydd ei chwaraewyr yn cael defnyddio enw, baner nac anthem eu gwlad yng Nghwpan y Byd, o ganlyniad i'r gwaharddiad dwy flynedd.[10]

Fformat[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd fformat y gemau rhagbrofol gan Bwyllgor Gweithredol UEFA yn ystod eu cyfarfod yn Nyon, y Swistir, ar 4 Rhagfyr 2019.[11][12] Bydd cymhwyso'n dibynnu, yn rhannol, ar ganlyniadau Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2020–21, er i raddau llai nag yn UEFA Euro 2020. Bydd fformat y rhagbrofion hyn yn cynnal strwythur arferol UEFA, sef dau gam: cam grwpiau a 'cham y gemau ail gyfle (playoffs)'.[13][14][15]

  • Cam grwpiau: 5 grŵp o 5 tîm a 5 grŵp o 6 thîm (gyda'r 4 tîm sy'n gwneud Rowndiau Terfynol Cynghrair Cenhedloedd UEFA 2021 yn y grwpiau llai). Bydd enillwyr grŵp yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.
  • Cam ail-chwarae: Bydd dau enillydd grŵp Cynghrair y Cenhedloedd gorau yn ymuno â'r 10 sy'n ail yn y grŵp, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd, sy'n gorffen y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Bydd y 12 tîm hyn yn cael eu tynnu i mewn i dri llwybr ail-chwarae, gan chwarae dwy rownd o gemau ail-chwarae un-gêm (rownd gynderfynol gyda'r timau cartref i'w dethol, ac yna rowndiau terfynol, gyda'r timau cartref i'w tynnu). Bydd y tri enillydd llwybr yn gymwys ar gyfer rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Ar 4 Rhagfyr 2019, cymeradwyodd Pwyllgor Gweithredol UEFA dechrau defnyddio'r system dyfarnwr cynorthwyydd fideo (VAR) ar gyfer y gemau cymhwyso.[13] Fodd bynnag, ni weithredwyd VAR ar ddechrau'r gemau rhagbrofol oherwydd effaith y pandemig COVID-19.[16] Ar 5 Awst 2021, cyhoeddodd UEFA y byddai'r system VAR yn cael ei defnyddio ar gyfer gweddill y gemau, gan ddechrau ym Medi 2021.[17]

Amserlen[golygu | golygu cod]

Isod mae amserlen y gemau rhagbrofol Ewropeaidd ar gyfer Cwpan y Byd 2022 FIFA. Newidiwyd hon o'r gwreiddiol oherwydd y Gofid Mawr.[12]

Rownd Diwrnod Chwarae Dyddiadau
Rownd gyntaf
(cam grŵp)
Dydd chwarae 1 24–25 Mawrth 2021
Dydd chwarae 2 27–28 Mawrth 2021
Dydd chwarae 3 30–31 Mawrth 2021
Dydd chwarae 4 1–2 Medi 2021
Dydd chwarae 5 4–5 Medi 2021
Dydd chwarae 6 7–8 Medi 2021
Dydd chwarae 7 8–9 Hydref 2021
Dydd chwarae 8 11–12 Hydref 2021
Dydd chwarae 9 11–13 Tachwedd 2021
Dydd chwarae 10 14–16 Tachwedd 2021
Ail rownd
(gemau ail gyfle)
Rownd gynderfynol 24 Mawrth 2022
Rowndiau Terfynol 29 Mawrth 2022

Rownd gyntaf[golygu | golygu cod]

Detholion (seeding)[golygu | golygu cod]

Dyrannwyd timau i botiau dethol fel a ganlyn (Tachwedd 2020 Rhestr Detholion y Byd FIFA a ddangosir yn yr ail golofn; mae'r timau cenedlaethol sydd wedi cymhwyso ar gyfer y twrnamaint olaf wedi'u cyflwyno mewn print trwm; mae'r timau cenedlaethol a fydd yn cymryd rhan yn y gemau ail gyfle yn cael eu cyflwyno mewn italig).[18][19]

Pot 1
Tîm Safle
 Gwlad Belg 1
 Ffrainc 2
 Lloegr 4
 Portiwgal 5
 Sbaen 6
 yr Eidal 10
 Croasia 11
 Denmarc 12
 Yr Almaen 13
 Yr Iseldiroedd 14
Pot 2
Tîm Safle
 Y Swistir 16
 Cymru 18
 Gwlad Pwyl 19
 Sweden 20
 Awstria 23
 Wcrain 24
 Serbia 30
 Twrci 32
 Slofacia 33
 Rwmania 37
Pot 3
Tîm Safle
 Rwsia 39
 Hwngari 40
 Iwerddon 42
 Y Weriniaeth Tsiec 42
 Norwy 44
 Gogledd Iwerddon 45
 Gwlad yr Iâ 46
 yr Alban 48
 Gwlad Groeg 53
 Y Ffindir 54
Pot 4
Tîm Safle
 Bosnia-Hertsegofina 55
 Slofenia 62
 Montenegro 63
 Macedonia 65
 Albania 66
 Bwlgaria 68
 Israel 87
 Belarws 88
 Georgia 89
 Lwcsembwrg 98
Pot 5
Tîm Safle
 Armenia 99
 Cyprus 100
 Ynysoedd Ffaro 107
 Aserbaijan 109
 Estonia 109
 Kosovo 117
 Casachstan 122
 Lithwania 129
 Latfia 136
 Andorra 151
Pot 6
Tîm Safle
 Malta 176
 Moldofa 177
 Liechtenstein 181
 Gibraltar 195
 San Marino 210

Crynodeb[golygu | golygu cod]

     Cymhwysodd enillydd pob grŵp yn uniongyrchol ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 2022     Bydd yr ail o bob grŵp a dau enillydd grŵp gorau Cynghrair y Cenhedloedd yn symud ymlaen i'r ail rownd (gemau ail gyfle)     Cafodd timau eraill eu dileu ar ôl y rownd gyntaf

Grŵp A Grŵp B Grŵp C Grŵp D Grŵp E Grŵp F Grŵp G Grŵp H Grŵp I Grŵp J

Serbia

Sbaen

Y Swistir

Ffrainc

Gwlad Belg

Denmarc

Yr Iseldiroedd

Croasia

Lloegr

Yr Almaen

Portiwgal

Sweden

yr Eidal

Wcrain

Cymru

yr Alban

Twrci

Rwsia

Gwlad Pwyl

Macedonia

Gweriniaeth Iwerddon

Gwlad Groeg

Gogledd Iwerddon

Y Ffindir

Y Weriniaeth Tsiec

Israel

Norwy

Slofacia

Albania

Rwmania

Lwcsembwrg

Georgia

Bwlgaria

Bosnia-Hertsegofina

Estonia

Awstria

Montenegro

Slofenia

Hwngari

Armenia

Aserbaijan

Kosovo

Lithwania

Casachstan

Belarws

Ynysoedd Ffaro

Latfia

Cyprus

Andorra

Gwlad yr Iâ

Moldofa

Gibraltar

Malta

San Marino

Liechtenstein

Grwpiau[golygu | golygu cod]

Cadarnhawyd y rhestr gemau gan UEFA ar 8 Rhagfyr 2020, drannoeth tynnu'r rhestr.[20][21][22] Roedd Qatar wedi'i phartneru â Grŵp A pum tîm, a alluogodd gwesteiwyr Cwpan y Byd FIFA 2022 i chwarae gemau cyfeillgar yn erbyn y gwledydd hyn ar eu dyddiadau gemau "sbâr". Fodd bynnag, nid oedd y gemau cyfeillgar hyn yn cyfrif yn y grwpiau rhagbrofol.[23][24]

Grwp A[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Serbia Portiwgal Gweriniaeth Iwerddon Lwcsembwrg Aserbaijan
1  Serbia 8 6 2 0 18 9 +9 20 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 2–2 3–2 4–1 3–1
2  Portiwgal 8 5 2 1 17 6 +11 17 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 1–2 2–1 5–0 1–0
3  Iwerddon 8 2 3 3 11 8 +3 9 1–1 0–0 0–1 1–1
4  Lwcsembwrg 8 3 0 5 8 18 −10 9 0–1 1–3 0–3 2–1
5  Aserbaijan 8 0 1 7 5 18 −13 1 1–2 0–3 0–3 1–3
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp B[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Sbaen Sweden Gwlad Groeg Georgia Republic of Kosovo
1  Sbaen 8 6 1 1 15 5 +10 19 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 1–0 1–1 4–0 3–1
2  Sweden 8 5 0 3 12 6 +6 15 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 2–1 2–0 1–0 3–0
3  Gwlad Groeg 8 2 4 2 8 8 0 10 0–1 2–1 1–1 1–1
4  Georgia 8 2 1 5 6 12 −6 7 1–2 2–0 0–2 0–1
5  Kosovo 8 1 2 5 5 15 −10 5 0–2 0–3 1–1 1–2
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp C[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Y Swistir yr Eidal Gogledd Iwerddon Bwlgaria Lithwania
1  Y Swistir 8 5 3 0 15 2 +13 18 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 0–0 2–0 4–0 1–0
2  yr Eidal 8 4 4 0 13 2 +11 16 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 1–1 2–0 1–1 5–0
3  Gogledd Iwerddon 8 2 3 3 6 7 −1 9 0–0 0–0 0–0 1–0
4  Bwlgaria 8 2 2 4 6 14 −8 8 1–3 0–2 2–1 1–0
5  Lithwania 8 1 0 7 4 19 −15 3 0–4 0–2 1–4 3–1
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp D[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Ffrainc Wcrain Y Ffindir Bosnia-Hertsegofina Casachstan
1  Ffrainc 8 5 3 0 18 3 +15 18 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 1–1 2–0 1–1 8–0
2  Wcrain 8 2 6 0 11 8 +3 12 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 1–1 1–1 1–1 1–1
3  Y Ffindir 8 3 2 3 10 10 0 11 0–2 1–2 2–2 1–0
4  Bosnia-Hertsegofina 8 1 4 3 9 12 −3 7 0–1 0–2 1–3 2–2
5  Casachstan 8 0 3 5 5 20 −15 3 0–2 2–2 0–2 0–2
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp E[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Gwlad Belg Cymru Y Weriniaeth Tsiec Estonia Belarws
1  Gwlad Belg 8 6 2 0 25 6 +19 20 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 3–1 3–0 3–1 8–0
2  Cymru 8 4 3 1 14 9 +5 15 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 1–1 1–0 0–0 5–1
3  Y Weriniaeth Tsiec 8 4 2 2 14 9 +5 14 Ymlaen i'r gemau ail gyfle drwy Gyngh. y Cenh. 1–1 2–2 2–0 1–0
4  Estonia 8 1 1 6 9 21 −12 4 2–5 0–1 2–6 2–0
5  Belarws 8 1 0 7 7 24 −17 3 0–1 2–3 0–2 4–2
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp F[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Denmarc yr Alban Israel Awstria Ynysoedd Ffaro Moldofa
1  Denmarc 10 9 0 1 30 3 +27 27 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 2–0 5–0 1–0 3–1 8–0
2  yr Alban 10 7 2 1 17 7 +10 23 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 2–0 3–2 2–2 4–0 1–0
3  Israel 10 5 1 4 23 21 +2 16 0–2 1–1 5–2 3–2 2–1
4  Awstria 10 5 1 4 19 17 +2 16 Ymlaen i'r gemau ail gyfle drwy Gyngh. y Cenh. 0–4 0–1 4–2 3–1 4–1
5  Ynysoedd Ffaro 10 1 1 8 7 23 −16 4 0–1 0–1 0–4 0–2 2–1
6  Moldofa 10 0 1 9 5 30 −25 1 0–4 0–2 1–4 0–2 1–1
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp G[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Yr Iseldiroedd Twrci Norwy Montenegro Latfia Gibraltar
1  Yr Iseldiroedd 10 7 2 1 33 8 +25 23 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 6–1 2–0 4–0 2–0 6–0
2  Twrci 10 6 3 1 27 16 +11 21 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 4–2 1–1 2–2 3–3 6–0
3  Norwy 10 5 3 2 15 8 +7 18 1–1 0–3 2–0 0–0 5–1
4  Montenegro 10 3 3 4 14 15 −1 12 2–2 1–2 0–1 0–0 4–1
5  Latfia 10 2 3 5 11 14 −3 9 0–1 1–2 0–2 1–2 3–1
6  Gibraltar 10 0 0 10 4 43 −39 0 0–7 0–3 0–3 0–3 1–3
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp H[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Croasia Rwsia Slofacia Slofenia Cyprus Malta
1  Croasia 10 7 2 1 21 4 +17 23 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 1–0 2–2 3–0 1–0 3–0
2  Rwsia 10 7 1 2 19 6 +13 22 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 0–0 1–0 2–1 6–0 2–0
3  Slofacia 10 3 5 2 17 10 +7 14 0–1 2–1 2–2 2–0 2–2
4  Slofenia 10 4 2 4 13 12 +1 14 1–0 1–2 1–1 2–1 1–0
5  Cyprus 10 1 2 7 4 21 −17 5 0–3 0–2 0–0 1–0 2–2
6  Malta 10 1 2 7 9 30 −21 5 1–7 1–3 0–6 0–4 3–0
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp I[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Lloegr Gwlad Pwyl Albania Hwngari Andorra San Marino
1  Lloegr 10 8 2 0 39 3 +36 26 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 2–1 5–0 1–1 4–0 5–0
2  Gwlad Pwyl 10 6 2 2 30 11 +19 20 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 1–1 4–1 1–2 3–0 5–0
3  Albania 10 6 0 4 12 12 0 18 0–2 0–1 1–0 1–0 5–0
4  Hwngari 10 5 2 3 19 13 +6 17 0–4 3–3 0–1 2–1 4–0
5  Andorra 10 2 0 8 8 24 −16 6 0–5 1–4 0–1 1–4 2–0
6  San Marino 10 0 0 10 1 46 −45 0 0–10 1–7 0–2 0–3 0–3
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Grwp J[golygu | golygu cod]

Saf Tim Chw En Cyf Coll GF GA GGw Pt Wedi cymhwyso Yr Almaen Gweriniaeth Macedonia Rwmania Armenia Gwlad yr Iâ Liechtenstein
1  Yr Almaen 10 9 0 1 36 4 +32 27 Do, ar gyfer Cwpan y Byd 1–2 2–1 6–0 3–0 9–0
2  Macedonia 10 5 3 2 23 11 +12 18 Ymlaen i'r gemau ail gyfle 0–4 0–0 0–0 3–1 5–0
3  Rwmania 10 5 2 3 13 8 +5 17 0–1 3–2 1–0 0–0 2–0
4  Armenia 10 3 3 4 9 20 −11 12 1–4 0–5 3–2 2–0 1–1
5  Gwlad yr Iâ 10 2 3 5 12 18 −6 9 0–4 2–2 0–2 1–1 4–0
6  Liechtenstein 10 0 1 9 2 34 −32 1 0–2 0–4 0–2 0–1 1–4
Ffynhonnell/au: FIFA, UEFA

Ail rownd[golygu | golygu cod]

Bydd yr ail rownd (gemau ail gyfle) yn cael eu chwarae gan y deg tim ail-gyfle a'r ddau dim enillwyr gorau grŵp Cynghrair y ddwy Wlad, yn seiliedig ar safle cyffredinol Cynghrair y Cenhedloedd,[25] a orffennodd y tu allan i ddau uchaf eu grŵp cymwys. Byddant yn cael eu gwahanu'n dri llwybr ail-chwarae, gyda phob llwybr yn cynnwys dwy rownd gynderfynol un-cymal (single-leg) ac un rownd derfynol un-cymal. Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chynnal gan y chwe ail orau yn y cam grwpiau rhagbrofol, tra bydd lleoliad y gêm derfynol yn cael ei bennu gan drwy fwrw coelbren.[26] Bydd y rownd gynderfynol yn cael ei chwarae ar 24 Mawrth 2022, a'r rowndiau terfynol ar 29 Mawrth 2022. Bydd enillwyr pob llwybr yn gymwys ar gyfer Cwpan y Byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Regulations FIFA World Cup 2022 Preliminary Competition" (PDF). FIFA.com. Fédération Internationale de Football Association. 2020. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2020.
  2. "Current allocation of FIFA World Cup confederation slots maintained". FIFA.com. 30 Mai 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mai 2015.
  3. "Amir: 2022 World Cup Qatar a tournament for all Arabs". Gulf Times. 15 Gorffennaf 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Medi 2018. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  4. Taylor, Daniel (15 Gorffennaf 2018). "France seal second World Cup triumph with 4–2 win over brave Croatia". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2019. Cyrchwyd 7 Medi 2018.
  5. "FIFA Executive Committee confirms November/December event period for Qatar 2022". FIFA. 19 Mawrth 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Medi 2018. Cyrchwyd 5 December 2017.
  6. "Russia banned for four years to include 2020 Olympics and 2022 World Cup". BBC. 9 December 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
  7. "Can Russia play at the World Cup 2022 and Euro 2020?". BBC. 9 December 2019. Cyrchwyd 9 December 2019.
  8. "WADA files official request with Court of Arbitration for Sport to resolve RUSADA dispute". World Anti-Doping Agency. 9 Ionawr 2020. Cyrchwyd 14 Chwefror 2020.
  9. "CAS arbitration WADA v. RUSADA: Decision". TAS/CAS. 17 December 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
  10. 10.0 10.1 "Russia banned from using its name, flag at next two Olympics". ESPN. Associated Press. 17 December 2020. Cyrchwyd 18 December 2020.
  11. "UEFA Executive Committee agenda for Nyon meeting". UEFA.com. Union of European Football Associations. 27 Tachwedd 2019. Cyrchwyd 28 Tachwedd 2019.
  12. 12.0 12.1 "Regulations of the UEFA Nations League, 2020/21". UEFA.com. Union of European Football Associations. 13 Hydref 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 16 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 13 Hydref 2019.
  13. 13.0 13.1 "Game changer: group stage for UEFA Women's Champions League". UEFA.com. Union of European Football Associations. 4 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 4 Rhagfyr 2019.
  14. "2022 World Cup qualifying: all you need to know". UEFA.com. Union of European Football Associations. 9 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 5 Ionawr 2020.
  15. "UEFA preliminary competition format for the FIFA World Cup 2022" (PDF). FIFA. 4 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2020.
  16. "Pandemic blamed for lack of VAR in World Cup qualifiers after Ronaldo fury". France 24. Paris. Agence France-Presse. 29 Mawrth 2021. Cyrchwyd 29 Mawrth 2021.
  17. "VAR to be used at European Qualifiers as of September 2021". UEFA (yn Saesneg). 5 Awst 2021. Cyrchwyd 5 Awst 2021.
  18. "FIFA/Coca-Cola World Ranking – Tachwedd 2020 (UEFA)". FIFA. 27 Tachwedd 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
  19. "UEFA preliminary draw for FIFA World Cup 2022: seeded teams confirmed". FIFA. 27 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 27 Tachwedd 2020.
  20. "European Qualifiers for 2022 World Cup: all the fixtures". UEFA. 9 December 2020. Cyrchwyd 12 December 2020.
  21. "Fixture List – European Qualifiers 2020–2022: FIFA World Cup Preliminary Competition" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
  22. "Fixture List by Group – European Qualifiers 2020–2022: FIFA World Cup Preliminary Competition" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
  23. "Group A matches with Qatar". UEFA. 11 December 2020. Cyrchwyd 12 December 2020.
  24. "World Cup Qualifying Calendar – Group A with Qatar" (PDF). UEFA. 8 December 2020. Cyrchwyd 8 December 2020.
  25. "Overall ranking of the 2020/21 UEFA Nations League" (PDF). UEFA. 1 December 2020. Cyrchwyd 1 December 2020.
  26. "Regulatory articles for the 2020–2022 European qualifiers play-offs" (PDF). FIFA. 22 Hydref 2020. Cyrchwyd 22 Hydref 2020.


Gwall cyfeirio: Mae tagiau <ref> yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag <references group="lower-alpha"/>