Fatma Neslişah

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Wyres Mehmed VI Vahidettin, Swltan a Chaliff olaf yr Otomaniaid, oedd Ei Huchelder Ymerodrol Y Tywysoges Fatma Neslişah, Tywysoges Ymerodrol Ymerodraeth yr Otomaniaid a Thywysoges yr Aifft, neu Fatma Neslişah Osmanoğlu (4 Chwefror 1921 – 2 Ebrill 2012).

Ganwyd yn Istanbul a chafodd ei magu yn Nice, Ffrainc, wedi i'w theulu adael Twrci pan oedd hi'n 3 mlwydd oed. Yn dilyn marwolaeth ei pherthynas Ertuğrul Osman yn 2009 hi oedd yr aelod olaf o deulu ymerodrol yr Otomaniaid i'w geni pan oedd yr Ymerodraeth dal yn bodoli.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Ziflioğlu, Vercihan (3 Ebrill 2012). Most senior heir to Ottomans loses life. Hürriyet.
Wiki crown-template.png Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.