Fanfare Ciocărlia

Oddi ar Wicipedia
Fanfare Ciocărlia. Zelt-Musik-Festival 2017 yn Freiburg, Yr Almaen.
Fanfare Ciocărlia'n canu yn Athen.
Fanfare Ciocărlia'n canu yn Athen.

Band chwyth Rwmanaidd sy'n dod o bentref Zece Prăjini yw Fanfare Ciocărlia, y mae ganddo 12 aelod. Dechreuodd y grŵp fel criw llac o gerddorion oedd yn chwarae mewn priodasau a bedyddau. Prif gân y ffilm Fallen Art (a gyfansoddwyd gan gan Tomasz Bagiński) ydy Asfalt Tango, o'r CD Baro Biao gan y band. Maen nhw hefyd i'w clywed ar Borat: Cultural Learnings of America for Make Benefit Glorious Nation of Kazakhstan, yn y credits terfynol yn chwarae eu fersiwn nhw o Born to be Wild.

Ystyr y gair Romaneg Ciocărlia ydy ehedydd.

Mae eu cerddoriaeth yn gyflym iawn ac yn llawn ynni, gyda rhythmau cymhleth, stacato a rhannau unigol gan y clarined, y sacsaffon a thrwmped sydd ar adegau mor gyflym â 200 curiad y funud.[1] Mae rhai o'u hofferynau'n hen ac yn ail-law.

Ffilm Borat Subsequent Moviefilm[golygu | golygu cod]

Mae nifer o'u caneuon yn cael eu chwarae ar ffilm, Borat Subsequent Moviefilm, a ryddhawyd ym mis Hydref 2020 ar sianel Amazon Prime.[2]

Balada Lui Loan
Lume Lume
Fat Suit
Moliendo Café
Cruzando el Campo
Cucuritza
I Am Your Gummy Bear
Just The Two Of Us

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwmania. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.