FC Barcelona

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
FC Barcelona
Enw llawn Futbol Club Barcelona
(Clwb Pêl-droed Barcelona)
Llysenw(au) Barça
Blaugrana
Culés
Sefydlwyd 1899
(fel Foot-Ball Club Barcelona)
Maes Camp Nou
Cynhwysedd 98,772
Cadeirydd Baner Sbaen Joan Laporta
Rheolwr Baner Sbaen Josep Guardiola
Cynghrair La Liga
2008-2009 1af
Team colours Team colours Team colours
Team colours
Team colours
 
Lliwiau cartref
Team colours Team colours Team colours
Team colours
Team colours
 
Lliwiau oddi cartref
Y Camp Nou
Dathlu llwyddiant ar strydoedd Barcelona

Mae Futbol Club Barcelona, a adnabyddir yn aml fel Barça, yn glwb chwaraeon yn ninas Barcelona, Catalonia, Sbaen. Ystyrir y tim peldroed yn un o'r goreuon yn Sbaen ac yn y byd. Ffurfiwyd y tim peldroed yn 1899 gan nifer o ddynion o'r Swistir, Lloegr a Chatalonia ei hun. Arwyddair y clwb yw Més que un club (Mwy na chlwb mewn Catalaneg). Yr oeddynt yn un o'r timau gwreiddiol ym mhrif adran Sbaen, La Liga yn 1928, ac nid ydynt erioed wedi bod allan o'r adran gyntaf.

Eu stadiwm yw'r Camp Nou, ac adwaenir y cefnogwyr fel y culés (penolau) - dywedir fod y sawl oedd yn sefyll tu allan i'w hen stadiwm flynyddoedd yn ôl yn gweld rhes o benolau. Yn y tymor 2005-06 amcangyfrifwyd fod FC Barcelona yr ail glwb cyfoethocaf yn y byd, gydag incwm o €259.1 miliwn. Mae cystadleuaeth ffyrnig rhwng Barcelona a Real Madrid.

Cawsant gyfnod llwyddiannus iawn dan Johan Cruijff fel rheolwr, gan ennill La Liga bedair gwaith rhwng 1991 a 1994 ac ennill Cwpan Ewrop yn 1992. Dan Frank Rijkaard enillwyd La Liga yn 2005 a 2006, a churo Arsenal F.C. yn 2006 i ddod yn bencampwyr Ewrop am yr ail dro. Daeth Pep Guardiola yn rheolwr ar ddechrau tymor 2008-09, ac enillodd y clwb Gwpan Sbaen, La Liga a Chwpan Ewrop.

  • Pencampwyr La Liga (19)
    • 1929, 1945, 1948, 1949, 1952, 1953, 1959, 1960, 1974, 1985, 1991, 1992, 1993, 1994, 1998, 1999, 2005, 2006, 2009
  • Cwpan y Brenin (25)
    • 1910, 1912, 1913, 1920, 1922, 1925, 1926, 1928, 1942, 1951, 1952, 1953, 1957, 1959, 1963, 1968, 1971, 1978, 1981, 1983, 1988, 1990, 1997, 1998, 2009
  • Cwpan Ewrop/Cynghrair Pencampwyr UEFA (3)
    • 1992, 2006, 2009
  • Cwpan Enillwyr Cwpan UEFA
    • 1979, 1982, 1989, 1997

[golygu] Chwaraewyr enwog

[golygu] Dolennau allanol

Offer personol