Epsilon Eridani b

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygol o'r blaned Epsilon Eridani b gyda'r seren Epsilon Eridani yn y cefndir

Mae Epsilon Eridani b yn blaned allheulol sy'n cylchio'r seren Epsilon Eridani (neu Al-Sadirah) yng nghytser Eridanws.

Mae Al-Sadirah yn perthyn i'r un dosbarth o sêr fel yr Haul, er ei bod yn seren oren sydd ychydig yn fwy. Mae'r blaned yn gorwedd tua 10.5 o flynyddoedd goleuni i ffwrddd, sydd yn ei gwneud y blaned agosaf at y Ddaear o ran pellter.

Mae ei chrynswth 1.5 gwaith yn fwy na Iau. Mae hi'n cymryd dros 2000 o ddyddiau i gylchio Al-Sadirah.