Epsilon Eridani

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llun dychmygol o'r blaned Epsilon Eridani b gyda'r seren Epsilon Eridani yn y cefndir

Seren yng nghytser Eridanws yw Epsilon Eridani (neu Al-Sadirah). Mae Al-Sadirah yn perthyn i'r un dosbarth o sêr a'r Haul, er ei bod yn seren oren sydd ychydig yn fwy na'n Haul ni o ran maint.

Mae'r blaned allheulol Epsilon Eridani b yn ei chylchio ac mae hithau, fel Epsilon Eridani tua 10.5 o flynyddoedd goleuni i ffwrdd, sy'n ei gwneud y blaned allheulol agosaf at y Ddaear o ran pellter. Mae ei chrynswth 1.5 gwaith yn fwy na Iau. Mae hi'n cymryd dros 2000 o ddyddiau i gylchio Al-Sadirah.