Planed allheulol
Oddi ar Wicipedia
Siart linell o blanedau a ddarganfuwyd yn flynyddol hyd at Gorffennaf 2009; mae'r lliwiau'n nodi y modd y cawsant eu darganfod: ("radial velocity" = glas tywyll, "transit" = gwyrdd tywyll, amseru = porffor tywyll, "astrometry" = melyn tywyll, delweddu uniongyrchol = coch tywyll, "microlensing" = oren tywyll, "pulsar timing" = porffor)
Planed Allheuol yw planed sydd y tu allan i Gysawd yr Haul. Er gwaethaf yr enw Daear-ganolog, mae pob planed allheulog yn cylchu ei haul (seren) ei hun. Y cyntaf i'w darganfod oedd planed a oedd yn cylchu'r seren 51 Pegasi; gwelwyd hi gyntaf ar 6 Hydref, 1995 gan Michel Mayor a Didier Queloz o Brifysgol Geneva.
Darganfuwyd rhai 306 o blanedau allheulog erbyn Awst 2008. Un o'r diweddaraf i gael ei darganfod yw Gliese 581 c, tua 20 blwyddyn goleuni i ffwrdd, sydd efallai'n medru cynnal bywyd.