Enrique Larreta

Oddi ar Wicipedia
Enrique Larreta
Ganwyd4 Mawrth 1873 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw6 Gorffennaf 1961 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auUwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X Edit this on Wikidata

Nofelydd Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg a diplomydd oedd Enrique Rodríguez Larreta (4 Mawrth 18757 Gorffennaf 1961). Ei gampwaith ydy La gloria de Don Ramiro: Una vida en tiempos de Felipe II (1908), un o'r nofelau hanesyddol gwychaf yn holl lên America Ladin.[1]

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin, yn fab i rieni cefnog o Wrwgwái. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Buenos Aires.[2] Teithiodd i Fadrid ac yno cafodd ei ddylanwadu gan y nofelydd Ffrengig Maurice Barrès. Treuliodd bum mlynedd yn Sbaen yn gwneud gwaith ymchwil am gyfnod Felipe II ar gyfer ei nofel, La gloria de Don Ramiro.

Penodwyd yn llysgennad yr Ariannin i Ffrainc yn 1910, a daliodd y swydd honno hyd 1919.

Ymhlith ei nofelau eraill mae Zogoibi (1926), enghraifft o lenyddiaeth y gaucho, a Gerardo o la torre de las damas (1953) a'i ddilyniant En la pampa (1955), a gyhoeddant ar ffurf un gyfrol, El gerardo (1956). Ysgrifennodd hefyd gyfrol o atgofion ac ysgrifau, La naranja (1948).

Bu farw yn Buenos Aires yn 86 oed. Mae ei gartref yno bellach yn amgueddfa gelf Sbaenaidd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Enrique Larreta. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 22 Ebrill 2019.
  2. (Saesneg) David William Foster, "Larreta, Enrique Rodríguez (1873–1961)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 22 Ebrill 2019.