Enfys
Oddi ar Wicipedia
Rhyfeddod optegol a meteorolegol yw enfys, pan fydd sbectrwm o olau yn ymddangos yn yr awyr pan mae'n haul yn disgleirio ar ddiferion o leithder yn atmosffer y ddaear. Mae'n ymddangos ar ffurf bwa amryliw, gyda choch ar ran allanol y bwa, a dulas ar y rhan mewnol.
Mae enfys yn ymestyn dros sbetrwm di-dor o liwiau, mae'r bandiau a welir yn arteffact o golwg lliw dynolryw. Disgrifir y gyfres o liwiau'n gyffredinol fel coch, oren, melyn, gwyrdd, glas, indigo a fioled/dulas.
Gall enfys gael ei achosi gan ffurfiau eraill o ddŵr heblaw glaw, megis niwl, chwistrell a gwlith.