Emyr Jones (llenor)

Oddi ar Wicipedia
Emyr Jones
Ganwyd1914 Edit this on Wikidata
Waunfawr Edit this on Wikidata
Bu farw1999 Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata
Fersiwn 2014

Awdur a addasodd y nofel Gwaed Gwirion oedd Emyr Jones (19141999). Fe'i ganwyd yn y Waunfawr. Cyhoeddwyd Gwaed Gwirion gyntaf yn 1965 gan Wasg y Brython, Lerpwl. Credwyd hyd at Awst 2014 mai Emyr Jones oedd yr awdur; yn araith flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Babell Lên datgelodd y bardd a'r Athro Gerwyn Williams i Emyr Jones gyfieithu rhannau o Gwaed Gwirion o lyfr Saesneg Hell on Earth gan F Haydn Hornsey. Wedi gadael yr ysgol aeth Emyr Jones yn chwarelwr i Chwarel Dinorwig cyn mynychu Coleg Hyfforddi Cartrefle, Wrecsam; yna bu'n athro cynradd yn Abergele ac yn brifathro ym Metws-yn-Rhos.[1]

Cyhoeddwyd y nofel gyda rhagymadrodd ar ffurf e-lyfr gan Gerwyn Williams yn 2014, gyda sêl bendith y teulu (Gwasg Gomer, ISBN 9781848518025). Ar y clawr nodir mai 'addasiad' ydyw. Yn ei araith dywedodd Williams "...mi ddaeth yn glir bod Emyr Jones wedi cyplysu rhai o benodau Hell on Earth, mae o wedi cwtogi ac ail-drefnu yma a thraw ac wedi ychwanegu ambell bwt."[2]

Ni ellir dweud mai twyll na 'lladrad' oedd hyn, gan i Jones roi cydnabyddiaeth i'r nofel Saesneg Hell on Earth yn rhagymadrodd ei nofel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.goodreads.com; adalwyd 27 Tachwedd 2014
  2. Gwefan www.bbc.co.uk; adalwyd 27 Tachwedd 2014