Emma Goldman
Anarchydd ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Emma Goldman (27 Mehefin 1869 – 14 Mai 1940).
Ganed hi yn Kaunas, Lithuania, yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, i deulu Iddewig. Aeth i'r ysgol yn Königsberg, ond gwrthododd ei thad adael iddi gael addysg bellach. Symudodd gyda'i chwaer, Helena i Rochester, Efrog Newydd, pan oedd yn un ar bymtheg oed. Daeth yn anarchydd, a theithiodd o amgylch yn darlithio, gan dynnu tyrfaoedd o filoedd. Carchardwyd hi nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn 1917 carcharwyd hi a'i phartner i ddwy flynedd o garchar am wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi eu rhyddhau, alltudiwyd hwy i Rwsia.
Yn Rwsia, cefnogodd y Chwyldro Rwsaidd ar y cyntaf, ond yn ddiweddarach daeth i'w wrthwynebu. Bu'n byw yn Lloegr, Canada a Ffrainc, a theithiodd i Sbaen y gymeryd rhan yn Rhyfel Cartref Sbaen. Bu farw yn Toronto ar 14 Mai 1940.