Eleanor o Aquitaine

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Eleanor d'Aquitaine)
Eleanor o Aquitaine
Ganwyd1122, 1124 Edit this on Wikidata
Poitiers, Ocsitania Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1204 Edit this on Wikidata
Poitiers Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDuchy of Aquitaine Edit this on Wikidata
Galwedigaethcroesgadwr benywaidd Edit this on Wikidata
Swydddug Aquitaine, iarll Poitiers, queen of Franks, cymar teyrn Lloegr Edit this on Wikidata
TadGuillaume X Edit this on Wikidata
MamAenor de Châtellerault Edit this on Wikidata
PriodLouis VII, brenin Ffrainc, Harri II, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
PlantMarie o Ffrainc, Alice o Ffrainc, William IX, iarll Poitiers, Harri, y brenin ieuanc, Matilda o Loegr, duges Saxony, Rhisiart I, brenin Lloegr, Geoffrey II, dug Llydaw, Eleanor o Loegr, brenhines Castile, Joanna, John, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
PerthnasauBlanca o Gastilia, Henry I of Castile Edit this on Wikidata
LlinachRamnulfids Edit this on Wikidata
Arch carreg Eleanor o Aquitaine, yn Abaty Fontrévault (Normandi)

Roedd Eleanor o Aquitaine (11221 Ebrill 1204 (neu 31 Mawrth 1204)) yn frenhines yn ei thro i Louis VII, brenin Ffrainc, a Harri Plantagenet, brenin Lloegr a Comte d'Anjou, sef Harri II, brenin Lloegr. Petronilla, Iarlles Vermandois, oedd ei chwaer iau.

Alia Aenor neu Aliaenor yw ei henw go iawn, ond fe'i hadnabyddir fel Eleanor o Aquitaine. Roedd Eleanor yn wraig i Louis VII rhwng 1137 a 1152. Roedd hi'n wraig ar ôl hynny i Harri II rhwng 1153 a marwolaeth Harri yn 1189, ond cadwodd hi dan arestiad ar ôl gwrthryfel ym 1173. Trwy ei phriodasau dynastig daeth yr ymerodraeth Angevin i fodolaeth. Eleanor oedd mam y brenhinoedd Rhisiart I a John ar Loegr. Pan ddaliwyd Rhisiart yn wystl yn yr Almaen, cododd bridwerth i'w ryddhau.

Roedd Eleanor yn adnabyddus fel gwraig ddiwylliedig a noddai feirdd a llenorion fel y trwbadŵr Bernard de Ventadour.

Baner FfraincEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrancwr neu Ffrances. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.