Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhydaman 1970 yn 1970 yn Rhydaman, de Cymru.

Enillwyd y Gadair gan Tomi Evans Blaenffynnon, Tegryn, Sir Benfro, am ei awdl Y Twrch Trwyth.

Enillwyd y Goron gan fardd lleol oedd yn dod o Frynaman, Bryan Martin Davies. Fe enillodd am ei ddilyniant o gerddi ar y testun Darluniau ar Gynfas. Aeth ymlaen i gipio'r goron y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Bangor.

Dai Jones y darlledwr enillodd y Rhuban Glas, ac fe enillodd Leah Owen bedair gwobr gyntaf.

Fe gynhyrchodd Norah Issac basiant y plant Gwilym a Beni Bach. Dyma'r tro cyntaf erioed i'r Eisteddfod ddarparu maes carafannau swyddogol, a leolwyd ar gaeau chwarae yr hen ysgol eilradd.

Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Offer personol