Eglwys Gatholig y Santes Fair, Trefynwy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eglwys Gatholig y Santes Fair

Eglwys Gatholig y Santes Fair

51°48′44.3″N 2°42′47.1″W / 51.812306°N 2.713083°W / 51.812306; -2.713083Cyfesurynnau: 51°48′44.3″N 2°42′47.1″W / 51.812306°N 2.713083°W / 51.812306; -2.713083
Gwlad Cymru
Enwad Pabyddion
Gwefan monmouth-catholic.org
Architecture
Pensaer neu Bensaeri nifer, gan gynnwys Benjamin Bucknall
Clerigwyr
Priest(s) Fr Nicholas James

Caniatäwyd i Babyddion addoli yn Eglwys Gatholig y Santes Fair, Trefynwy, cyn unrhyw le arall yng Nghymru. Fe'i lleolwyd yng nghanol y dre yn Sir Fynwy de-ddwyrain Cymru. Codwyd yr adeilad yn 1793; erys rhan yn unig, bellach, sef yr ochr ddwyreiniol.[1] Ychwanegwyd ato'n sylweddol yn Oes Victoria gan y pensaer Benjamin Bucknall.[1]

Cofrestrwyd yr adeilad yn Awst 1974 fel adeilad Gradd II.[2]

Mae'n un o 24 o adeiladau hanesyddol sydd ar Lwybr Treftadaeth Trefynwy.[3]

Cyfeiriadau [golygu]

  1. 1.0 1.1 John Newman, The Buildings of Wales: Gwent/Monmouthshire, Penguin Books, 2000, ISBN 0-14-071053-1, tud.398
  2. Church of St. Mary R C, Monmouth, Listed Buildings; adalwyd Ionawr 2012.
  3. Monmouth Civic Society, Monmouth Heritage Blue Plaque Trail, n.d., tud.19