Edwina Currie
Oddi ar Wicipedia
Cyn-Aelod Seneddol Seisnig ydy Edwina Currie (ganed Cohen (ar 13 Hydref 1946). Fe'i hetholwyd fel Aelod Seneddol Y Blaid Geidwadol ym 1983. Bu'n Weinidog Iechyd Ieuaf am ddwy flynedd, cyn ymddiswyddo ym 1988 oherwydd anghydfod ynglyn â salmonela mewn ŵy. Erbyn i Currie golli ei sedd seneddol ym 1997, roedd hi wedi dechrau ar yrfa newydd fel nofelydd a darlledwraig.