Dorothy Parker
| Dorothy Parker | |
|---|---|
Dororthy Parker yn y 1910au neu'r 1920au |
|
| Ganwyd | 22 Awst, 1893 Long Branch, New Jersey, Unol Daleithiau |
| Bu farw | 7 Mehefin, 1967 Efrog Newydd, Efrog Newydd, Unol Daleithiau |
| Yn enwog am | Enough Rope, Sunset Gun, A Star Is Born |
| Galwedigaeth | Awdures, Bardd, Sgriptiwr |
Awdures a bardd Americanaidd oedd Dorothy Parker (22 Awst, 1893–7 Mehefin, 1967), a oedd mwyaf adnabyddus am ei hiwmor a'i ffraethineb ynghyd â'i sylwadau bachog am ffolineb yr 20fed ganrif.
Ar ôl plentyndod trist a chythryblus, daeth Parker yn enwog am ei gweithiau llenyddol mewn cyhoeddiadau fel The New Yorker ac roedd yn un o'r bobl a sefydlodd y Algonquin Round Table, grŵp a gasaodd yn hwyrach yn ei bywyd. Pan chwalodd y cylch hwnnw, teithiodd Parker i Hollywood i ddilyn gyrfa fel sgriptiwr. Cafodd lwyddiant yno, gan gynnwys dau enwebiad am Wobrau'r Academi, ond daeth ei llwyddiant i ben o ganlyniad i'w gwleidyddiaeth adain chwith, a arweiniodd iddi gael ei rhoi ar restr ddu Hollywood.
Bu Parker yn briod deirgwaith, (dwywaith i'r un dyn) a goroesodd sawl ymgais i gyflawni hunanladdiad, ond daeth yn gynyddol ddibynol ar alcohol. Fodd bynnag, mae ei gweithiau llenyddol a'i ffraethineb wedi goroesi.