Dilwyn

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Pentref bychan yn Swydd Henffordd, gorllewin Lloegr, yw Dilwyn. Gorwedd ger y ffordd A4112 tua 6 milltir i'r de-orllewin o dref Llanllieni (tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Henffordd).

Ychydig i'r gogledd o'r pentref ceir cymunedau bychain Dilwyn Common, Little Dilwyn a Sollers Dilwyn. Mae'n anodd gwybod a ydyw'r enw Dilwyn yn tarddu o'r enw personol Cymraeg 'Dilwyn' neu yn llygriad o 'Dulwyn' (du + llwyn).

Gorwedd y pentref mewn cwm llydan sy'n arwain o afon Gwy i Lanllieni, gyda ffrwd Stretford Brook yn rhedeg trwyddi. I'r gogledd ceir afonydd Arrow a Lugg. Nodweddir Dilwyn gan nifer o'r hen dai hanner pren du a gwyn sydd mor noddweddiadol o ogledd-orllewin Swydd Henffdordd.

Mae plwyf Dilwyn yn cynnwys cymunedau Sollers Dilwyn, Little Dilwyn, The Haven, Hill Top, The Hurst, Headland, Bearton, Bidney, Henwood, Stockmoor a Stockingfield. Ceir dros 200 anedd yn 6,400 acr y plwyf a phoblogaeth o 758 (2001).