Dharamsala

Oddi ar Wicipedia
Norbulinka, pencadlys llywodraeth alltud Tibet

Tref yn Ardal Kangra yn nhalaith Himachal Pradesh, yn rhagfryniau'r Himalaya yng ngogledd India yw Dharamsala neu Dharamshāla, (yn llythrennol "Tŷ Gorffwys"; Hindi: धर्मशाला; Tibeteg: དྷ་རམ་ས་ལ་).

Mae'r dref yn adnabyddus fel lleoliad pencadlys Gweinyddiaeth Ganolog Tibet, llywodraeth alltud Tibet, a arweinir gan Tenzin Gyatso, y Dalai Lama presennol. Lleolir pencadlys y llywodraeth yn faesdref McLeod Ganj, a elwir weithiau yn Dharamsala Uchaf neu "Lhasa Fach". Sefydlwyd y llywodraeth yno yn 1959, gyda chefnogaeth Jawaharlal Nehru, Prif Weinidog India.

Eginyn erthygl sydd uchod am India. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.