Derrig

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Derrig
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosperms
Ddim wedi'i restru: Eudicots
Ddim wedi'i restru: Rosids
Urdd: Rosales
Teulu: Rosaceae
Genws: Dryas
Rhywogaeth: D. octopetala
Enw deuenwol
Dryas octopetala
L.

Mae'r Derrig (Dryas octopetala) yn blanhigyn blodeuol, Arctic–alpaidd, sy'n perthyn i deulu'r rhosod. Tyf ar ffurf matiau bytholwyrdd sydd yn gallu bod yn eang iawn.

Yng Nghymru, prin iawn ydyw - yn gyfyngiedig i ddau gwm, ond ceir gormodedd ohono yn tyfu ar y galchfaen yn ardal y Burren (Swydd Clare), Iwerddon.

Arferai fod yn llawer iawn mwy cyffredin ar Ynys Prydain yn ystod Oes y Rhew, ond erbyn heddiw mae wedi ei gyfyngu i lethrau mynyddoedd uchel yng Nghymru a Lloegr. Mewn ambell lecyn yn yr Alban tyf ger y môr lle mae'r cynefin yn addas.

Safleoedd yng Nghymru[golygu]

Cwm Idwal
Creigiau Gleision

Oriel[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: