Defnyddiwr:Adda'r Yw/drafftiau/Llenyddiaeth Wcreineg

Oddi ar Wicipedia

Datblygodd llenyddiaeth Wcreineg yn nechrau'r 19g, pan ddaeth iaith y werin yn brif iaith lenyddol yr Wcreiniaid. Cyn hynny, ysgrifennai'r Wcreiniaid drwy gyfrwng Hen Slafoneg Eglwysig, iaith lenyddol a arferid hefyd gan y Rwsiaid a'r Belarwsiaid, yn Rws Kiefaidd o'r 11g i'r 13g. Dirywiodd llên Wcráin yn sgil goresgyniadau'r Mongolwyr hyd at adfywiad diwylliant Slafig yn yr 16g. Erbyn y 19g, bu digon o hyder gan lenorion Wcreinaidd i ysgrifennu drwy gyfrwng eu mamiaith.

Mae llenyddiaeth Wcreineg y 19g yn adlewyrchu twf cyflym cenedlaetholdeb Wcreinaidd dan reolaeth Ymerodraeth Rwsia. Ystyrir Eneida (1798), ffugarwrgerdd fwrlésg gan Ivan Kotliarevsky (1769–1838), yn fan cychwyn llenyddiaeth Wcreineg. Bardd, dramodydd a chlasurydd oedd Kotliarevsky, a ddefnyddiodd yr arwrgerdd Ladin Aenid gan Fyrsil yn fodel ar gyfer parodi o Gosaciaid Zaporizhzhia. Y gwaith rhyddiaith cyntaf i'w gyhoeddi yn Wcreineg oedd y nofel Marusya (1834) gan Hryhorii Kvitka-Osnovianenko (1778–1843).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]