Aenid

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Aeneas yn ffoi o Gaerdroa, Federico Barocci, 1598.

Cerdd Ladin gan y bardd Rhufeinig Fyrsil yw'r Aeneid (Lladin: Aeneis, daw y ffurf "Aenid" o'r Groeg). Ysgrifennwyd y gerdd rheng 29 CC ac 19 CC. Mae'n adrodd hanes Aeneas, mab i'r tywysog Anchises a'r dduwies Aphrodite (Gwener); mae Anchises yn gefnder i Priam, brenin Caerdroea. Yn yr Iliad, ef yw arweinydd y Dardaniaid sy'n ymladd ar ochr Caerdroea yn erbyn y Groegiaid, ac mae'n un o gynghreiriaid agosaf Hector. Pan syrth dinas Caerdroes ar ddiwedd Rhyfel Caerdroea, llwydda Aeneas i ddianc o'r ddinas.

Dechreua'r Aenid gydag Aeneas yn hwylio tua'r Eidal i chwilio am gartref newydd. Gyrr y dduwies Juno stormydd, a gyrrir ef i Ogledd Affrica a dinas Carthago, lle mae'r frenhines Dido yn syrthio mewn cariad ag Aeneas. Er hynny, mae Aeneas yn mynnu gadael, ac yn teithio i'r Eidal. Yn ail hanner y gerdd, ceir hanes ei frwydro yn erbyn y Lladiniaid. Mae'n ymsefydlu yn Latium, lle mae'n priodi Lavinia, merch y brenin Latinus, ac yn sefydlu dinas Lavinium.

Yn ddiweddarach, dywedir i'w fab, Ascanius, yn sefydlu dinas Alba Longa, a gyfrannodd at sefydlu dinas Rhufain, felly mae'r Aenid yn epig genedlaethol Rhufain. Ystyriai brenhinoedd Teyrnas Rhufain eu hunain fel disgynyddion Aeneas, ac roedd teulu yr Iulii, yn eu plith Iŵl Cesar, yn ystyried eu hunain yn ddisgynyddion Aeneas, a felly'n ddisgynyddion y dduwies Gwener. Ysgrifennwyd y gerdd dan yr ymerawdwr Augustus, nai a mab mabwysiedig Iŵl Cesar.

Dechreua'r gerdd gyda'r geiriau enwog Arma virumque cano..., ("Canaf am arfau ac am ddyn ...").

Daeth yr Aenid yn garreg glo mewn gwersi Lladin, erbyn diwedd yr ail ganrif OC,[1] ac roedd dygu'r gwaith ar y co, yn hanfodol.[2]

Cyfeiriadau[golygu]