David Davies (nofiwr)
| - | |
| Manylion Personol | |
|---|---|
| Enw Llawn | David Davies |
| Dyddiad geni |
Mawrth 3, 1985 |
| Gwlad | |
| Taldra | 1.85 medr |
| Pwysau | 159 pwys (72 kg) |
| Gwybodaeth Tîm | |
| Dulliau | Steil rhydd |
| Golygwyd ddiwethaf ar: | |
| {{{diweddarwyd}}} | |
Nofiwr pellter hirCymreig yw David Davies (ganwyd 3 Mawrth 1985, Y Barri).[1] Cystadlodd yng Ngemau'r Gymanwlad 2002 yn Manceinion. Cymreodd ran ym Mhencapwriaethau Iau Ewrop tra'n dal yn ei arddegau,lle enillodd fedal aur yn 2003. Mae'n arbenigo yn y ras steil rhydd 1,500 medr. Cystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2004 yn Athen, lle cipiodd y fedal efydd gyda amser o 14:45.95 gan osod record Prydeinig ac Ewropeaidd. Fe gipiodd yr efydd unwaith eto ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2005. Enillodd yr aur yn y ras 1,500 medr a'r efydd yn y 400 medr tra'n cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2006 yn Melbourne.
Mae Davies yn cynyrchioli Prydain yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 yn Beijing, yn y ras 1500 km.[2] Mae hefyd wedi ymgymhwyso i nofio'r Marathon 10 km Olympaidd lle cysidir ef yn un o'r ffefrynnau i gipio'r fedal aur cyntaf erioed yn y chwaraeon Olympaidd newydd yma.[3]
Mae David Davies wedi dod yn eicon nofio ym Mhrydain ac Awstralia. Noddir ef gan Speedo.