Daniel Kehlmann

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Kehlmann-Daniel-litcologne-120309-2

Llenor Almaeneg o dras Awstriaidd ac Almaenig yw Daniel Kehlmann (ganwyd 13 Ionawr 1975). Ysgrifennodd y nofel Almaeneg a werthodd orau yn y chwarter ganrif diwethaf Die Vermessung der Welt (a gyfiethwyd i Saesneg gan Carol Brown Janeway fel Measuring the World, 2006). Mae dylanwad realaeth hudol ar ei waith, rhyddhad o ddylanwad yr hen do o awduron wedi'r rhyfel sef y Grwp 47. Enillodd y gwobrau pwysig isod.

• 1998 Förderpreis des Kulturkreises beim Bundesverband der Deutschen Industrie

• 2000 Stipendium des Literarisches Colloquiums in Berlin

• 2003 Förderpreis des Österreichischen Bundeskanzleramtes

• 2005 Candide-Preis, Minden.

• 2006 Literaturpreis der Konrad-Adenauer-Stiftung; Heimito-von-Doderer-Preis

Fe anwyd Kehlmann ym Munchen, yn fab i'r cyfarwyddwr teledu Michael Kehlmann. Magwyd e yn Fienna, cartref ei dad..

Dechreuodd cyhoeddu yn 1997 tra yn fyfyriwr gyda'i nofel, Beerholms Vorstellung, Mae'n cyfrannu i bapurau cenedlaethol yr Almaen Süddeutsche Zeitung, Frankfurter Rundschau, Frankfurter Allgemeine Zeitung, a Literaturen.

O 2001 roedd Kehlmann yn ddarlithydd gwadd ym Mhrifysgol Johannes Gutenberg ym Mainz ac ym mhrifysgolion Wiesbaden, a Göttingen. Fe dderbyniodd ef i'r Mainzer Akademie der Wissenschaften und der Literatur. Eironi y peth oedd iddo fethu cwblhau ei PhD am fod e mor boblogaidd fel awdur.

Llyfryddiaeth[golygu]

Dolenni allanol[golygu]