Daniel Jones (cyfansoddwr)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfansoddwr o Gymro oedd Daniel Jones (7 Rhagfyr, 1912 - 23 Ebrill, 1993).

Cafodd ei eni ym Mhenfro ond fe'i fagwyd yn Abertawe. Yr oedd yn gyfoeswr â Vernon Watkins ac â Dylan Thomas, a fagwyd yn Abertawe hefyd. Ar ôl astudio Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe, aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol, Llundain.

Cyfansoddodd Daniel Jones un opera, pump symffoni, sawl concerto, gweithiau corawl a cherddoriaeth siambr, ynghyd â sonata arbrofol i dri drwm cegin.

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.