Dan Amheuaeth

Oddi ar Wicipedia
Dan Amheuaeth
AwdurJohn Alwyn Griffiths
CyhoeddwrGwasg Carreg Gwalch
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi12 Hydref 2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781845275624
GenreFfuglen

Nofel gan John Alwyn Griffiths yw Dan Amheuaeth a gyhoeddwyd yn 2016 gan Wasg Carreg Gwalch. Man cyhoeddi: Llanrwst, Cymru.[1]

Ar ôl cyfnod cythryblus, a nifer o achosion treisgar, mae Ditectif Sarjant Jeff Evans yn fodlon ei fyd. Mae ganddo gartref newydd, gwraig hyfryd a mab bach; ond mae rhywun yn benderfynol o chwalu'r cyfan. Pwy sydd â'i fryd ar ddryllio bywyd a gyrfa Jeff? Ac a fydd wyneb o'r gorffennol yn dychwelyd i ddial arno?

Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths yn wreiddiol, ond bellach mae'’n byw ym Môn. Bu'’n heddwas hyd ddiwedd 2008, a chyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Hon yw ei bumed nofel.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017