Damcaniaeth grwpiau
Oddi ar Wicipedia
Cangen o fathemateg ydyw damcaniaeth grwpiau, lle astudir grwpiau. Mae ganddo lawer o gymwysiadau o fewn mathemateg, yn ogystal â mewn ffiseg a chemeg.
Defnyddir grŵpiau fel model o gymesuredd.
Theori Galois yw tarddiad hanesyddol y cysyniad o grŵp.
Gellir cymhwyso strwythr grŵp abelaidd i sawl gwrthrych a astudir mewn algebra haniaethol, megis modrwyon, cyrff, a modwlau.
Mewn topoleg algebreaidd, gefnyddir grwpiau i ddisgrifio'r priodweddau o ofod topologaidd nad ydynt yn newid wrth aflunio'r gofod mewn modd priodol.
Mae'r cysyniad o grŵp Lie yn bwysig wrth astudio hafaliadau differol. Maent yn cyfuno dadansoddi a theori grwpiau.