Dal y Mellt (cyfres deledu)

Oddi ar Wicipedia
Dal y Mellt
Genre Drama
Cyfansoddwr/wyr Siôn Trefor
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 6 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Llyr Morus, Iwan Roberts
Golygydd Urien Deiniol
Sinematograffeg Rory Taylor
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Vox Pictures
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 2 Hydref 2022 (2022-10-02)
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Rhaglen ddrama yw Dal y Mellt. Mae'n seiliedig ar y nofel o'r un enw a gyhoeddwyd gan Iwan 'Iwcs' Roberts yn 2019. Cynhyrchwyd y fersiwn teledu gan Llŷr Morus o Vox Pictures, gyda Iwan yn addasu ei nofel i sgript. Ymunodd Huw Chiswell fel cyfarwyddwr.

Mae'r gyfres yn dilyn hanes cythryblus y prif gymeriad, Carbo, gan fynd ar daith gynhyrfus a difyr wrth iddo gael ei dynnu mewn i fyd o ddrwg weithredu, celwyddau, cyfrinachau a thor calon.

Mae 6 pennod yn y gyfres gyntaf. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm ar S4C.[1]

Ar 15 Medi 2023, cyhoeddwyd y fod ail gyfres yn cael ei ffilmio a byddai yn cael ei ddarlledu yn 2024.[2]

Cast[golygu | golygu cod]

Penodau[golygu | golygu cod]

# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr S4C [3]
1"Y Fagl"Huw ChiswellIwan Roberts2 Hydref 2022 (2022-10-02)35,000
Wedi ceisio cuddio am fisoedd mae'r rhwyd yn cau o amgylch Carbo wrth i Mici a Les gael gafael ynddo - mae'r cynllun o ddial yn dechrau.
2"Yr Alwad"Huw ChiswellIwan Roberts9 Hydref 2022 (2022-10-09)<15,000
Mae Carbo yn penderfynu gadael y criw a mynd ar ei liwt ei hun, ond pan dderbynia alwad ffôn gan Antonia mae'n cael ei swyno ac yn dewis aros i weld beth sydd ar droed.
3"Y Trip"Huw ChiswellIwan Roberts16 Hydref 2022 (2022-10-16)<16,000
Mae Carbo yn teithio i Ogledd Cymru ac yn cyfarfod Gronw ac mae'n derbyn newyddion trist am orffennol ei dad. Nid yw'n cael ei siomi pan yn cyfarfod gyda Antonia wyneb yn wyneb.
4"Y Plan"Huw ChiswellIwan Roberts23 Hydref 2022 (2022-10-23)<19,000
Mae'r gang gyda'i gilydd am y tro cyntaf a'r ymarferion ar gyfer y cynllun o ddial ar gychwyn. Daw'r Anhysbus i chwilio am Carbo a'r £30,000 sydd yn ddyledus ganddo. Caiff Gwilym Posman ei ddal yng nghanol yr anghydfod.
5"Y Glec"Huw ChiswellIwan Roberts30 Hydref 2022 (2022-10-30)<19,000
Parhau mae'r ymarferion ar gyfer yr heist ac mae'r criw yn penderfynu mynd i'r dafarn am gêm o pool i ymlacio. Daw Carbo wyneb yn wyneb gyda hen gyfoedion o'r ysgol a darganfod mwy o wirioneddau trist am farwolaeth ei dad.
6"Y Celtic Pride"Huw ChiswellIwan Roberts6 Tachwedd 2022 (2022-11-06)<20,000
Mae'r diwrnod mawr wedi cyrraedd ac mae'r criw yn barod am yr heist. Nid yw popeth yn mynd yn iawn wrth i Mici groesi Terrence Huston. Daw newyddion trist am Gronw. Wedi'r hir ymaros, ydi'r holl waith paratoi a dial wedi bod i ddim yn y diwedd'?

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Dal y Mellt yn dod yn fyw ar ffurf cyfres ddrama , S4C, 18 Chwefror 2022.
  2. "Y Wasg | S4C". www.s4c.cymru. Cyrchwyd 2023-09-15.
  3. Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]