Cytsain olblyg
Oddi ar Wicipedia
Mewn seineg, yngenir cytsain olblyg â'r tafod yn erbyn neu ger ceudod y genau y tu ôl i drum y gorfant, a'r tafod wedi ei blygu yn ôl i gyffwrdd â'r daflod neu'r wfwla.
Ceir y cytseiniaid olblyg canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):
| IPA | Disgrifiad | Enghraifft | |||
|---|---|---|---|---|---|
| Iaith | Sillafu | IPA | Ystyr | ||
| cytsain drwynol olblyg | Swedeg | Vänern | [vɛː.neɳ] | Vänern | |
| cytsain ffrwydrol olblyg ddi-lais | Hindi | टापू (ṭāpū) | [ʈaːpu] | ynys | |
| cytsain ffrwydrol olblyg leisiol | Swedeg | nord | [nuːɖ] | gogledd | |
| cytsain ffrithiol olblyg ddi-lais | Mandarin | 上海 (Shànghǎi) | [ʂɑ̂ŋ.xàɪ] | Shanghai | |
| cytsain ffrithiol olblyg leisiol | Rwseg Pwyleg |
жаба żaba |
[ʐaba] | llyffant broga |
|
| cytsain amcanedig olblyg | Tamil | தமிழ் (Tamiḻ) | [t̪ɐmɨɻ] | Tamil | |
| cytsain amcanedig ochrol olblyg | Swedeg | Karlstad | [kʰɑːɭ.sta] | Karlstad | |
| cytsain gnithiedig olblyg | Hausa | shaara | [ʃáːɽa] | ysgubo | |
| ɺ̢ () | cytsain gnithiedig ochrol olblyg | Pashto | ړوند (ṛund) | [ɺ̢und] | dall |
| ǃ˞ | clec olblyg (leisiol) | iaith Juu | [ɡǃ˞ú] | dŵr | |