Hausa (iaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hausa language niger.png
Afro asiatic peoples nigeria.png

Iaith Affro-Asiaidd yn perthyn i ddosbarth yr Ieithoedd Tsiadaidd yw 'Hausa. Hi yw'r iaith Tsiadaidd gyda mwyaf o siaradwyr; tua 24 miliwn o siaradwyr iaith-gyntaf a tua 15 miliwn o siaradwyr ail-iaith. Mae'n perthyn i is-ddosbarth yr ieithoedd Tsiadaidd Gorllewinol.

Siaradwyr Hausa fel mamiaith yw'r bobl Hausa, sy'n byw yn Niger a gogledd Nigeria, ond defnyddir yr iaith fel iaith gyffredinol mewn rhannau helaeth o Orllewin Affrica, fel Swahili yn Nwyrain Affrica. Mae'n iaith swyddogol yng ngogledd Nigeria ac yn iaith genedlaethol yn Niger.

Arferai'r iaith ddefnyddio'r wyddor Arabeg, ond mae yn awr wedi newid i'r wyddor Rufeinig.

Globe of letters.svg Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Africa stub icon.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato