Yr wyddor Arabeg

Oddi ar Wicipedia

Mae'r ieithoedd ganlynol yn defnyddio'r wyddor Arabeg, neu wyddorau sy'n seiliedig arni: Arabeg, Cashmireg, Cwrdeg, Perseg, Sindhi, Urdu. Fe newidiodd Twrceg o'r wyddor Arabeg i'r wyddor Rufeinig yn 1928 ac mae Hausa wedi newid hefyd.

Mae Arabeg yn ei ysgrifennu o'r dde i'r chwith. Does dim priflythrennau ond mae'r llythrennau yn cael eu hysgrifennu yn wahanol ar ganol ac ar ddiwedd gair er mwyn edrych yn daclus, e.e. mae'r llythyren olaf yn dueddol i orffen gyda chynffon.

Y llythrennau[golygu | golygu cod]

Llythyren Enw Cynaniad Cymraeg Trawsgrifiad Rhufeinig
unigol gyntaf ganol olaf
أ إ ؤ ئ
hamza ' (atalnod glotal fel "Y" byr) '
'alif a a / e
ba' b b
ta' t t
tha th th
jim j j / dj / g
ha' h (pwysleisiol fel wrth anadlu ar eich sbectol)
kha' ch kh
dal d d
dhal dd dh
ra' r r
zay z z
sin s s
shin sh ch / sh
Sad s (pwysleisiol)
ﺿ Dad d (pwysleisiol)
Ta' t (pwysleisiol)
Za' dd (pwysleisiol)
Aayn â ("A" gyddfol fel wrth ddangos eich llwnc i'r meddyg) A
ghayn gh ("R" gyddfol Ffrangeg neu fel ambell frodor Gwynedd) gh
fa' ff / ph f / ph
qaf g ("C" gyddfol) q
kaf c k
lam l l
mim m m
nun n n
ha' h h
waw w ou / w
ya' î i / y

Llythrennau eraill:

unigol cyntaf canol olaf Enw Cynaniad Cymraeg Trawsgrifiad Rhufeinig
ta' marbuta a / at a / at
'alif maq'ura a a / e
lam 'alif (L+A) la la / le

Nodiadau:

  • Mae 28 llythyren yn yr wyddor. Maen nhw wedi eu gwneud o 18 o ffurfiau. Wrth osod dotiau, mae 2 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 3 llythyren yr un, ac mae 6 ffurf yn cael eu defnyddio i wneud 2 lythyren yr un.
  • Fe fydd rhai yn cynanu fel "a" a rhai fel "e". (Mae hwn yn debyg iawn i frodor Canolbarth Cymru sy'n dweud "cêth fêch" yn hytrach na "cath fach".)
  • Mae geiriau benywaidd yn gorffen gyda , cynaniad "a" (neu "at" os oes gair arall yn dilyn)
  • Gellir ysgrifennu ar ddiwedd gair fel neu fel
  • Mae L + A yn cael ei ysgrifennu fel yn hytrach na ﺎﻟ , hynny yw; fe fyddyn nhw'n croesi'u gilydd.

Trefn yr wyddor[golygu | golygu cod]

Mae'r Abjad (wyddor cytseiniau, lluosog; abjadi) yn y drefn ganlynol fel arfer. Cofiwch ddarllen o'r dde i'r chwith;-

ﻍ ﻅ ﺽ ﺫ ﺥ ﺙ ﺕ ﺵ ﺭ ﻕ ﺹ ﻑ ﻉ ﺱ ﻥ ﻡ ﻝ ﻙ ﻱ ﻁ ﺡ ﺯ ﻭ ﻩ ﺩ ﺝ ﺏ ﺍ
gh ẓ ḍ dh kh th t sh r q ṣ f A s n m l k i ṭ ḥ z w h d j b a

Gellir ymadrodd yr abjad yn y ffordd ganlynol;-

"aabjad haouaz ḥuṭaï kalaman saAfaṣ qarashat thakhadh ḍaẓagh".

Neu yn Gymraeg;-

"abjad hawaz HwTaï calaman sâffaS garashat thachadd DaDDagh".

Ffordd arall o ymadrodd yr abjad yw;-

"abujadin hawazin ḥuṭïa kalman saAfaṣ qurishat thakhudh ḍaẓugh".

Mae trefn ychydig bach yn wahanol yn cael ei ddefnyddio yn y Maghreb, sef;-

ﺵ ﻍ ﻅ ﺫ ﺥ ﺙ ﺕ ﺱ ﺭ ﻕ ﺽ ﻑ ﻉ ﺹ ﻥ ﻡ ﻝ ﻙ ﻱ ﻁ ﺡ ﺯ ﻭ ﻩ ﺩ ﺝ ﺏ ﺍ
sh gh ẓ dh kh th t s r q ḍ f A ṣ n m l k i ṭ ḥ z w h d j b a

Fe fydd hwn yn cael ei adrodd fel;-

"aabujadin hawazin ḥuṭïa kalman ṣaAfaḍ qurisat thakhudh ẓaghush".

Aravrit[golygu | golygu cod]

Yn 2018 dyfeisiodd y dylunydd graffeg Iddewig o Haifa, Liron Lavi Turkenich, 'wyddor' hybrid o'r enw Aravrit sy'n cyfuno gwaelod llythrennau'r wyddor Hebraeg gyda top llythennau'r wyddor Arabeg fel bod modd i berson sy'n darllen yr iaith wyddor neu'r llall ddarllen y gair.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]