Cysgliad

Oddi ar Wicipedia
Cysgliad
Enghraifft o'r canlynolsoftware package Edit this on Wikidata

Pecyn o feddalwedd adnoddau iaith Cymraeg yw Cysgliad. Cafodd ei gynhyrchu gan Uned Technoleg Iaith Canolfan Bedwyr Prifysgol Bangor.

Mae'r pecyn yn cynnwys dwy brif raglen, sef Cysill a Chysgeir. Lansiwyd Cysgliad yn 2004 ar gyfer y PC ac mae'n cynnwys Bar Offer ar gyfer Microsoft Word a Star/OpenOffice.[1] Cyhoeddwyd fersiwn am ddim o Gysgliad ar gyfer yr Apple Mac, wedi’i noddi gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 2008. Yn 2009, lansiwyd Cysill ar-lein.

Cysill[golygu | golygu cod]

Rhaglen sy'n canfod ac yn cywiro camgymeriadau ieithyddol mewn dogfennau Cymraeg yw Cysill. Mae’n gallu adnabod camgymeriadau teipio, sillafu a gramadeg, gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau lle bo'u hangen, yn achos camgymeriadau gramadegol mae'n egluro natur y gwall er mwyn eich helpu i osgoi'r gwall hwnnw yn y dyfodol. Lansiwd Cysill fel rhaglen gyfrifiadurol ar ben ei hun yn 1992.[2]

Cysgeir[golygu | golygu cod]

Casgliad o eiriaduron yw Cysgeir. Mae'n cynnwys y geiriadur cyffredinol Cysgair a nifer o eiriaduron termau safonedig sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Ganolfan Bedwyr dros y blynyddoedd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Lansio Cysill Ar Lein - Sioe sleidiau gan Uned Dechnoleg Iaith Canolfan Bedwyr
  2. Dyma 1992 - Tudalen 1992 y rhaglen radio Cofio ar wefan BBC Cymru

Dolen allanol[golygu | golygu cod]