OpenOffice.org

Oddi ar Wicipedia
Ciplun o'r dudalen dewis a gynigir i ddefnyddiwr mewn fersiwn a oedd ar gael yn Gymraeg.

Mae OpenOffice.org (OO.o neu OOo), (a adnabyddir fel arfer fel: OpenOffice) yn deulu o feddalwedd cyfrifiadurol tebyg iawn i Microsoft Office - a ddosberthir am ddim. Mae'n draws-lwyfanol hefyd ac yn cyd-fynd gyda Fformat OpenDocument (OpenDocument Format (neu ODF)) yr ISO/IEC.

Hanes a'r Gymraeg[golygu | golygu cod]

Roedd y teulu hwn o feddalwedd ar gael mewn oddeutu 120 o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.[1] Y teitl gwreiddiol oedd StarOffice, a ddatblygwyd gan StarDivision ond a werthwyd i Sun Microsystems yn Awst 1999. Cafodd y cod ffynhonnell ei ryddhau yng Ngorffennaf 2000 gyda'r nod o gipio cyfran o farchnad Microsoft Office drwy ei gynnig am ddim i bawb.

Rhyddhawyd y fersiwn Cymraeg ryngwyneb OpenOffice.org 1.1 ym Mehefin 2004, wedi ei gyfieithu gan wirfoddolwyr. Datblygodd yr Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor wirydd sillafu Cymraeg ar ei gyfer ar yr un pryd. Yn ddiweddarach, creodd David Chan ategyn oedd yn caniatáu newid y rhyngwyneb o'r Gymraeg i'r Saesneg ac yn ôl drwy gyfrwng botwm ar y rhyngwyneb.

Yn 2010, cafodd Sun Microsystems ei brynu gan Oracle a chafodd OpenOffice.org ei drosglwyddo i'r Apache Software Foundation a'i alw'n Apache OpenOffice. Oherwydd anfodlonrwydd gyda natur trwydded Apache, aeth grŵp o ddatblygwyr OpenOffice.org ati i greu the Document Foundation a pharhau i ddatblygu fersiwn o'r meddalwedd dan enw newydd, LibreOffice.[2] Ni pharhawyd i ddatblygu'r rhyngwyneb Cymraeg o dan Apache OpenOffice. Y fersiwn diwethaf o OpenOffice.org i fod ar gael yn Gymraeg oedd 3.2.1, nôl yn 2010.[3] Mae LibreOffice yn parhau i gael ei ddatblygu gyda rhyngwyneb Cymraeg.[4]

Y gwahanol raglenni cynwysedig[golygu | golygu cod]

Mae OpenOffice.org yn gasgliad o wahanol raglenni sy'n cydweithio'n agos gyda'i gilydd i ddarparu'r nodweddion sydd i'w cael mewn casgliad arferol o feddalwedd swyddfa:

Modiwl Nodiadau
Writer Prosesydd geiriau tebyg i Microsoft Word a WordPerfect. Gall allforio ffeiliau Portable Document Format (PDF), a gall weithio fel golygydd WYSIWYG syml ar gyfer creu a golygu gwefannau.
Calc Taenlen tebyg i Microsoft Excel a Lotus 1-2-3. Gall Calc allforio taenlenni i'r fformat PDF.
Impress Rhaglen gyflwyno debyg i Microsoft PowerPoint ac Apple Keynote. Gall Impress allforio cyflwyniadau i ffeiliau (SWF) Adobe Flash, gan ganiatáu iddynt gael eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur gyda chwaraeydd Flash. Mae ganddo'r gallu i greu ffeiliau PDF, a'r gallu i ddarllen fformat .ppt Microsoft PowerPoint. Nid oes gan Impress ddewis o batrymluniau parod, ond mae modd lawr lwytho rhai am ddim.[5][6]
Base System rheoli cronfa ddata tebyg i Microsoft Access.
Draw Golygydd graffeg fector nid annhebyg i fersiynau cynnar o CorelDRAW a Microsoft Visio. Mae ganddo hefyd nodweddion tebyg i feddalwedd Cyhoeddi pen bwrdd fel Scribus a Microsoft Publisher. Gall allforio i fformat PDF.
Math Teclyn ar gyfer creu a golygu fformiwla mathemategol, tebyg i Microsoft Equation Editor. Gellir ei fewnosod tu mewn i ddogfennau OpenOffice eraill. Mae'n cefnogi sawl ffont ac yn gallu allforio o fformat PDF.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Language localization status". OpenOffice Language Localization Project. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.
  2. "Libreoffice VS Openoffice". Ice Walkers. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  3. "OpenOffice.org Cymraeg: Llwytho i Lawr - Download". Apache OpenOffice. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-28. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  4. "Please select your language". The Document Foundation. Cyrchwyd 29 Rhagfyr 2014.
  5. "Presentation templates at OpenOffice.org". documentation.openoffice.org. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.
  6. "Impress Templates — User/Template". documentation.openoffice.org. Cyrchwyd 29 Hydref 2012.