Cyngor Tref Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Cyngor Tref Aberystwyth
Gwybodaeth gyffredinol
MathCyngor Tref
Arweinyddiaeth
MaerMari Turner
Dirprwy FaerCharlie Kingsbury
Aelodau19
Grwpiau gwleidyddol     Plaid Cymru (12)
     Liberal Democrats (5)
     Plaid Lafur (2)
Etholiadau
Etholiad diwethaf4 Mai 2017
Etholiad nesaf5 Mai 2022
Man cyfarfod
Siambr-y-Cyngor, 11 Stryd y Popty, Aberystwyth, SY23 2BJ.
Gwefan
www.aberystwyth.gov.uk

Cyngor Tref Aberystwyth yw'r cyngor cymuned sy'n gwasanaethu hen fwrdeistref, tref a chymuned Aberystwyth. Fe'i rhennir i bum ward ar gyfer etholiadau.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r Cyngor yn penodi cadeirydd sy'n gweithredu fel llywydd ac a adnebir fel Maer Aberystwyth. Mae'r Cyngor bellach yn gorff staduol ond mae hefyd yn gadael ar Siarter Bwrdeisdref a roddwyd iddi gan y Edward I, brenin Lloegr ar 28 Rhagfyr 1277 ac sydd wedi ei chadarnhau gan frenhinoedd ers hynny,[1] sy'n golygu fod aelodau'r Cyngor hefyd yn ymddiriedoliaethwyr y Siarder.

Ers i'r Deddf Corfforaethu Bwrdeisdref 1835 ddod i rym, mae statws Aberystwyth fel bwrdeisdref wedi bod yn un seremoniol yn unig. Ers Deddf Llywodraeth Leol 1972 (a ddaeth i rym yn Ebrill 1974), gwaharddwyd cyngor y dref rhag cael ei hadnabod fel cyngor bwrdeisdref, er gall cynghorwyr tref, fel ymddiriedolaethwyr siarder, er enghraifft, dal gymryd rhan mewn gweithgaredd seremoniol (gwisgo ffurfwisg dinesig), ethol maeri (sy'n cael gwisgo cadwyn y swydd) a threfnu marchnadoedd (yn unol â'r Siarter Frenhinol wreiddiol). Y Maer yn 2019-20 yw Mari Turner.[2]

Wardiau Cyngor Aberystwyth

Ceir pump ward i Gyngor Tref Aberystwyth - Bronglais, Canol, Gogledd, Penparcau a Rheidol - sy'n ethol rhwng 3 a 5 cynghorydd yr un.

Gyda'r clod o'r gogledd, mae'n ffinio â chynghorau cymuned Tirymynach, Faenor, Llanbadarn Fawr a Llanfarian.

Cynrychiolaeth Cyfredol, ers etholiad 2017[golygu | golygu cod]

2017
Grŵp Gwleidyddol Aelodau
  Plaid Cymru
12
Democratiaid Rhyddfrydol 5
  Plaid Lafur
2
 Cyfanswm
19

Maeri Diweddar Cyngor Tref Aberystwyth[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Enw Plaid Nodiadau
2019-20 Mari Turner Plaid Cymru
2018-19 Talat Zafar Chaudhri Plaid Cymru Maer cyntaf Aberystwyth o gefndir Pacistani Punjabi
2017-18 Steve Davies Plaid Cymru
2016-17 Brendan Somers Plaid Cymru Collodd ei sedd 4 Mai 2017
2015-16 Endaf Edwards Plaid Cymru
2014-15 Brenda Haines Rhyddfrydwyr
2013-14 Wendy Morris-Twiddy Rhyddfrydwyr
2012-13 Dylan Lewis Annibynnol
2011-12 Richard Boudier Llafur Ymgeisydd Ceredigion i senedd San Steffan
2010-11 Samantha Hearne Rhyddfrydwyr
2009-10 Trevor Shaftoe Rhyddfrydwyr
2008-09 Susan Jones-Davies Plaid Cymru
2007-08 Lorrae Jones-Southgate Rhyddfrydwyr Ymddiswyddodd Mehefin 2008
2006-07 Michael Jones Plaid Cymru
2005-06 Aled Davies Plaid Cymru
2004-05 John T. James Plaid Cymru Annibynnol wedi Mawrth 2005
2003-04 John T. James Plaid Cymru
2002-03 Carol Kolczak Rhyddfrydwyr
2000-01 Jaci Taylor Plaid Cymru
1999-00 Siôn Jobbins Plaid Cymru
1998-99 Graham T. Parry Rhyddfrydwyr
1997-98 Elin Jones Plaid Cymru
1996-97 Carol Kolczak Rhyddfrydwyr
1995-96 Hywel Jones Annibynnol Diarddelwyd yn Chwefror 1996
1994-95 Bob Griffin Rhyddfrydwyr Gŵr Rose Simpson

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiraidau[golygu | golygu cod]

  1. "Hanes y Fwrdeistref"; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019
  2. "Maer Aberystwyth"; Cyngor Tref Aberystwyth; adalwyd 14 Awst 2019