Cyngor Gogledd yr Iwerydd
Oddi ar Wicipedia
Corff goruchaf y cynghrair milwrol NATO yw Cyngor Gogledd yr Iwerydd a sefydlwyd gan Erthygl 9 Cytundeb Gogledd yr Iwerydd. Mae Cynrychiolwyr Parhaol yr holl aelod-wladwriaethau yn cwrdd o leiaf unwaith yr wythnos. Hefyd mae gweinidogion tramor, gweinidogion amddiffyn, a phenaethiaid llywodraethol yn cwrdd fel rhan o'r Cyngor. Ysgrifennydd Cyffredinol NATO yw pennaeth y Cyngor.