Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria

Oddi ar Wicipedia
Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria
UEFA
[[File:|150px|Association crest]]
Sefydlwyd1923; 101 blynedd yn ôl (1923)
PencadlysSofia
Aelod cywllt o FIFA1924
Aelod cywllt o UEFA1954
LlywyddBorislav Mihaylov
Gwefanbfunion.bg/
Hen bencadlys y BFU yn Sofia
Llywydd Undeb Pêl-droed Bwlgaria, Borislav Mikhailov (20015-2019 a 2021 ymlaen).[1] Llun o 2014

Mae Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria, neu, o'i roi ei gyfieithiad cywir, Undeb Pêl-droed Bwlgaria, (Bwlgareg: Български футболен съюз, yn yr wyddor Ladin: Bǎlgarski futbolen sǎyuz; BFS)[2] yn gymdeithas bêl-droed sydd wedi'i lleoli ym Mwlgaria ac yn aelod o UEFA. Mae'n trefnu cynghrair pêl-droed, Parva Liga Bwlgaria, ac yn cynnwys ei dîm pêl-droed cenedlaethol Bwlgaria mewn cystadlaethau a awdurdodir gan UEFA a FIFA.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd yr endid cyfreithiol y mae'n honni ei fod yn disgyn ohono ei sefydlu ym 1923 fel adran bêl-droed Ffederasiwn Chwaraeon Cenedlaethol Bwlgaria, a oedd yn bodoli hyd at oresgyniad y Sofietiaid ym 1944. Roedd y corff llywodraethu pêl-droed bryd hynny yn cael ei adnabod fel y Pwyllgor Pêl-droed Canolog tan 1948, yr Adran Weriniaethol ar gyfer Pêl-droed o 1948 hyd 1962 a Ffederasiwn Pêl-droed Bwlgaria o 1962 hyd 1985. Ar 27 Mehefin 1985, ailenwyd y sefydliad yn Undeb Pêl-droed Bwlgaria, yr enw sydd ganddo heddiw.

Mae tîm cenedlaethol y dynion wedi cymhwyso i chwarae yn gemau ffeinals Euros ddwy waith, 1996 a 2004.

Llywodraethiant[golygu | golygu cod]

Mae pencadlys yr Undeb yn y brifddinas, Sofia.[3] Mae gan y BFS 50,639 o drwyddedau pêl-droediwr a 423 o glybiau cofrestredig (data o fis Mai 2004).

Cystadlaethau[golygu | golygu cod]

Mae’r Undeb yn trefnu’r cystadlaethau canlynol:

Pêl-droed dynion[golygu | golygu cod]

  • Uwch Gynghrair Bwlgaria
  • Ail Gynghrair, 2il lefel
  • Trydydd Cynghrair (4 adran), 3ydd lefel
  • Grwpiau Rhanbarthol, 4ydd a 5ed lefel
  • Cwpan Bwlgaria
  • Supercup Bwlgaria
  • Cwpan AFL (cwpan amatur)

Pêl-droed ieuenctid[golygu | golygu cod]

  • Cynghrair Elit; Cynghrair cyntaf i dimau academi, gyda thri chategori oedran, timau Dan 19, Dan 17 a Dan 15

Pêl-droed merched[golygu | golygu cod]

  • Cynghrair Merched Bwlgaria; Adran Gyntaf y Merched
  • Cwpan Merched Bwlgaria

Timau cenedlaethol[golygu | golygu cod]

Mae Undeb Pêl-droed Bwlgaria hefyd yn trefnu timau pêl-droed cenedlaethol sy'n cynrychioli Bwlgaria ar bob lefel oedran:

Dynion[golygu | golygu cod]

  • Tîm pêl-droed cenedlaethol Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 21 Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 19 Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 18 Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 17 Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 16 Bwlgaria
  • Tîm pêl-droed cenedlaethol dan 15 Bwlgaria

Merched[golygu | golygu cod]

  • Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Bwlgaria

Futsal[golygu | golygu cod]

  • Tîm futsal cenedlaethol Bwlgaria

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. www.dariknews.bg
  2. "Member Association - Bulgaria". FIFA. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-29. Cyrchwyd 2020-01-21.
  3. "Member associations - Bulgaria". UEFA. Cyrchwyd 2020-01-21.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.