Cyflafan Parkland

Oddi ar Wicipedia

Llofruddiaeth dorfol a gyflawnwyd gan Nikolas Cruz ar 14 Chwefror 2018 yn Uwchysgol Marjory Stoneman Douglas yn Parkland, Florida, Unol Daleithiau America, oedd cyflafan Parkland a laddodd 14 o fyfyrwyr a thri aelod o staff, ac anafodd 17 arall.[1][2][3] Hwn yw'r achos mwyaf angheuol o saethu torfol mewn ysgol uwchradd yn hanes yr Unol Daleithiau, a'r achos mwyaf angheuol ond dau—Newtown (2012) ac Uvalde (2022)—i ddigwydd mewn ysgol yn y wlad honno. Cruz yw'r saethwr torfol Americanaidd i ladd y nifer fwyaf o bobl a chael ei erlyn am ei droseddau; ym mhob un achos gyda chyfrif uwch o farwolaethau, lladdwyd y saethwr hefyd naill ai gan yr heddlu neu drwy law ei hun.

Cyn-fyfyriwr 19 oed o'r ysgol oedd Cruz, a chanddo hanes o gamymddygiad a phroblemau emosiynol.[4] Ar brynhawn Dydd San Ffolant, 14 Chwefror 2018, cyrhaeddodd yr ysgol tua 14:19 o'r gloch, gyda reiffl led-awtomatig AR-15, cetris, a grenadau mwg yn ei feddiant. Tua 14:21, cychwynnodd saethu ar fyfyrwyr a staff mewn ystafelloedd dosbarth, a seiniodd y larwm tân er mwyn cael pobl i mewn i'r coridorau. Saethodd tri yn farw y tu allan i'r ysgol, a 12 y tu mewn i'r adeilad; bu farw dau arall yn yr ysbyty. Wedi'r trosedd, tua 14:28, ffoes Cruz trwy ollwng ei arf ac ymuno â'r dorf o bobl yn gadael yr adeilad. Dihangodd i Coral Springs, Florida, ychydig o filltiroedd o'r ysgol, lle cafodd ei arestio tua un awr yn ddiweddarach.[5]

Digwyddodd y lladdfa yn ystod cynnydd o gefnogaeth gyhoeddus dros reolaeth ar ddrylliau, yn sgil achosion eraill o saethu torfol yn Las Vegas, Nevada (Hydref 2017), a Sutherland Springs, Texas (Tachwedd 2017). Daeth nifer o fyfyrwyr Ysgol Stoneman Douglas yn weithgar yn yr ymgyrch yn erbyn trais gynnau, a'r diwrnod wedi'r cyflafan sefydlasant y garfan bwyso Never Again MSD i lobïo dros newidiadau yn y gyfraith. Ar 9 Mawrth 2018, arwyddodd y Llywodraethwr Rick Scott fesur i gyfyngu ar ddeddfau arfau Florida, yn ogystal â galluogi ysgolion i arfogi athrawon hyfforddedig ac i hurio swyddogion yr heddlu i amddiffyn myfyrwyr.[6][7]

Cafodd ymateb yr heddlu lleol, Swyddfa Siryf Broward County, ei feirniadu gan nifer o bobl, am i'r swyddogion anwybyddu sawl rhybudd ynglŷn ag ymddygiad Cruz ac am oedi y tu allan i'r ysgol yn hytrach na wynebu'r saethwr ar unwaith.[8] O ganlyniad, ymddiswyddodd nifer o'r heddweision a oedd yn y fan yn ystod y trosedd, ac yn Hydref 2019 pleidleisiodd Senedd Florida i ddiswyddo'r Siryf Scott Israel.[8] Penodwyd comisiwn i archwilio'r saethu, a wnaeth gondemnio diffyg gweithredu gan yr heddlu ac annog awdurdodau addysg ar draws y dalaith i gryfhau diogelwch yn yr ysgolion.[9]

Ar 20 Hydref 2021, plediodd Cruz yn euog i bob un cyhuddiad yn ei erbyn, ac ymddiheuriodd.[10] Ceisiodd yr erlyniaeth fynnu'r gosb eithaf os cafwyd euogfarn, a disgwylid i'r achos llys gychwyn yn Ionawr 2022, ond gohiriwyd y dedfryd sawl tro oherwydd pandemig COVID-19.[11] O'r diwedd, dechreuodd y treial ynglŷn â dewis y gosb eitha ar 18 Gorffennaf 2022, ac ar 13 Hydref 2022 penderfynodd y rheithgor i argymell dedfryd o garchar am oes heb barôl.[12][13] Disgwylir iddo gael ei ddedfrydu gan y barnwr ar 1 Tachwedd.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Oliver Laughland, Richard Luscombe ac Alan Yuhas, "At least 17 people dead in Florida school shooting: 'It's a horrific, horrific day'", The Guardian (14 Chwefror 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2018.
  2. (Saesneg) Jennifer Earl a Kaitlyn Schallhorn, "Florida school shooting among 10 deadliest in modern US history", Fox News (19 Chwefror 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Ebrill 2021.
  3. (Saesneg) David Fleshler, Stephen Hobbs, Lisa J. Hurlash & Linda Trischitta, "Captain in Parkland school shooting was brought onto force by Sheriff Israel", South Florida Sun-Sentinel (3 Mawrth 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  4. (Saesneg) Lori Rozsa, Mark Berman a Renae Merle, "Accused South Florida school shooter confessed to rampage that killed 17 people, police say", The Washington Post (15 Chwefror 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Chwefror 2018.
  5. (Saesneg) "Parkland shooting: How the attack unfolded", BBC (12 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  6. (Saesneg) Dan Sweeney, "Florida House sends Stoneman Douglas gun and school bill to Gov. Scott", South Florida Sun-Sentinel (7 Mawrth 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Mawrth 2018.
  7. (Saesneg) Ray Sanchez a Holly Yan, "Florida Gov. Rick Scott signs gun bill", CNN (10 Mawrth 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Mawrth 2018.
  8. 8.0 8.1 (Saesneg) David K. Li, "Sheriff Scott Israel removed from office after criticism of Parkland school shooting response", NBC (11 Ionawr 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  9. (Saesneg) David Fleshler, "Broward Sheriff’s sergeant called 'an absolute, total failure' as Parkland shooting panel slams agency", South Florida Sun-Sentinel (13 Rhagfyr 2018). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Tachwedd 2021.
  10. (Saesneg) Terry Spencer, "Nikolas Cruz pleads guilty to 2018 Parkland school massacre", Associated Press (20 Hydref 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Ebrill 2022.
  11. (Saesneg) Terry Spencer, "Jury is chosen to decide Florida school shooter’s sentence", Associated Press (29 Mehefin 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  12. (Saesneg) Terry Spencer, "Prosecutor recalls coldness, cruelty of Parkland gunman", Associated Press (18 Gorffennaf 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  13. (Saesneg) Laurel Wamsley, "A jury recommends life in prison for Parkland shooter Nikolas Cruz", NPR (13 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.
  14. (Saesneg) Sam Cabral a Bernd Debusmann Jr, "Parkland: Families devastated as Florida school shooting gunman spared death", BBC (13 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2022.