Cyflafan Newtown
Cyfres o lofruddiaethau yn Newtown, Connecticut, UDA, oedd cyflafan Newtown. Ar 14 Rhagfyr 2012, lladdodd Adam Lanza[1] ei fam, Nancy Lanza, a gyrrodd i Ysgol Gynradd Sandy Hook a saethu 20 o blant a chwe o oedolion yn farw cyn iddo ladd ei hunan.
Cynnwys |
Llofrudd [golygu]
Dyn 20 oed oedd Adam Lanza. Nid oedd ganddo gofnod troseddau.[2]
Ymateb [golygu]
Y ddadl dros ddrylliau [golygu]
Yn debyg i nifer o gyflafanau drylliau eraill yn hanes yr Unol Daleithiau, cododd ddadl dros ddeddfau ar reoli drylliau yn sgil y drychineb. Galwodd Dan Malloy, Llywodraethwr Connecticut, am ddeddfwriaeth lymach i reoli drylliau ar lefel genedlaethol.[3]
Ymateb rhyngwladol [golygu]
Roedd newyddion y cyflafan yn stori fawr mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Japan, Gweriniaeth Pobl Tsieina, a'r Deyrnas Unedig.[4] Anfonodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, lythyr ar yr Arlywydd Obama i fynegi cydymdeimlad ar ran pobl Cymru.[5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Adam Lanza: Profile of suspected US school shooting gunman. BBC (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Holly Yan (16 Rhagfyr 2012). Connecticut massacre suspect Adam Lanza was a 'nice kid,' some say. CNN. Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ (Saesneg) Newtown shootings: Connecticut's Malloy urges gun control. BBC (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Saethu Connecticut – y byd yn cydymdeimlo. Golwg360 (15 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.
- ↑ Carwyn yn anfon llythyr o gydymdeimlad at Obama. Golwg360 (16 Rhagfyr 2012). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2012.