Crug crwn Abersychnant

Oddi ar Wicipedia

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug crwn Abersychnant, yng nghymuned Llandegla, Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ234496. 19 metr wrth 2.1m yw ei faint ac mae'r canol wedi suddo ryw ychydig. Fe'i cloddiwyd gan archaeolegwyr yn 1890 a chanfuwyd lludw du, dant ceffyl a blaen saeth allan o gallestr.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE264.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Dolen allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Cofrestr Cadw.
  2. "English Heritage". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-06. Cyrchwyd 2010-11-07.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato