Craig Cerrig-gleisiad

Oddi ar Wicipedia
Craig Cerrig-gleisiad
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr629 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.88505°N 3.51147°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN9607121805 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd74.7 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaFan Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddBannau Brycheiniog Edit this on Wikidata
Map

Copa yn y Fforest Fawr, sy'n rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yw Craig Cerrig-gleisiad. Saif yn sir Powys; cyfeiriad grid SN960217. Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 580metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf.

Gyda chopa Fan Frynych gerllaw, mae'n ffurfio Gwarchodfa Natur Genedlaethol Craig Cerrig-gleisiad a Fan Frynych. Ceir planhigion arctig-alpaidd ar ei glogwyni, un o'u safleoedd mwyaf deheuol ym Mhrydain.

fideo o'r ardal.

Mae'r nentydd ar ei lechweddau deheuol yn llifo i Afon Dringarth.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 629 metr (2064 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolennau allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]