Corhwyaden
| Corhwyaden | |
|---|---|
| Ceiliog | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Anas |
| Rhywogaeth: | A. crecca |
| Enw deuenwol | |
| Anas crecca Linnaeus, 1758 |
|
Mae'r Gorhwyaden (Anas crecca) yn un o'r hwyaid mwyaf cyffredin sy'n nythu trwy ogledd Ewrop and Asia. Yng Ngogledd America mae ffurf debyg iawn, y Gorhwyaden Asgell-werdd Anas carolinensis, oedd yn cael ei ystyried yr un rhywogaeth hyd yn ddiweddar.
Mae'r hwyaden yma yn aderyn mudol ac weithiau yn symud cyn belled ag Affrica yn y gaeaf. Yn y gaeaf gellir gweld heidiau o gannoedd ar adegau.
Dyma'r lleiaf o'r genws Anas. Yn ei blu nythu, mae'r ceiliog yn llwyd ar y cefn a'r ochrau gyda melyn o dan y gynffon, darn gwyrdd ar yr adenydd a phen browngoch gyda gwyrdd o gwmpas y llygad. Mae'r iar yn frown neu lwyd, ond gellir eu gwahaniaethu oddi wrth y rhan fwyaf o hwyaid eraill trwy eu bod yn llai a bod ganddynt wyrdd ar yr adain. Wrth hedfan, mae haid yn medru troi a throsi yn sydyn yn yr awyr, bron fel haid o rydyddion.
Mae'n nythu mewn gwlybdiroedd lle mae tipyn o dyfiant. Gall pwll bach neu gors fod yn ddigon iddynt fagu cywion. Planhigion yw eu bwyd pennaf. Mae'n aderyn eithaf swnllyd, ac mae gan y ceiliog chwiban glir sy'n nodweddiadol o'r gorhwyaden.
Ychydig o barau o'r Gorhwyaden sy'n nythu yng Nghymru, ond yn y gaeaf mae nifer fawr i'w gweld ar lynnoedd a chorsydd.