Conffiwsiws

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Conffiwsiws

Athronydd o Tsieina a sylfaenydd Conffiwsiaeth oedd Confucius (孔夫子, Kǒng Fūzǐ, 551 CC - 479 CC). Cafodd ei ddysgeidiaeth ddylanwad mawr yn China, Corea, Japan a Fietnam.

Yn ôl traddodiad, ganed ef yn ninas Qufu, yn Nheyrnas Lu, yn awr yn rhan o Dalaith Shandong. Dywedir iddo ddod yn Weinidog dros Gyfiawnder yn nheyrnas Lu. Wedi iddo gael ei orfodi i ymddiswyddo, bu'n teithio o gwmpas teyrnasoedd bychain gogledd-ddwyrain a chanolbarth China, yn egluro ei syniadau ynghylch llywodraethu.

Pwysleisia ei athroniaeth foesoldeb, perthynas gymdeithasol gywir, cyfiawnder a gonestrwydd, mewn bywyd personol ac mewn llywodraeth. Yn ystod cyfnod Brenhinllin Han yn Tsieina, daeth ei ddysgeidiaeth yn athroniaeth swyddogol y wladwriaeth. Cyflwynwyd ei ddysgeidiaeth i Ewrop gan y Iesuwr Matteo Ricci, y cyntaf i Ladineiddio ei enw fel "Confucius."

Ceir ei ddysgeidiaeth yn yr Analectau (論語), casgliad o ddarnau byrion a cagglwyd at ei gilydd flynyddoedd ar ôl ei farwolaeth. Yn ôl traddodiad, ef oedd awdur y Pum Clasur, ond nid yw haneswyr modern yn credu fod unrhyw ddogfen a ysgrifennweyd ganddo ef ei hun wedi goroesi.

Bedd Conffiwsiws yn Qufu