Comed Donati

Oddi ar Wicipedia
Comed Donati
Enghraifft o'r canlynolcomed, non-periodic comet Edit this on Wikidata
Dyddiad darganfod2 Mehefin 1858 Edit this on Wikidata
Echreiddiad orbital0.996295 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Mae yna dair comed Donati: C/1855 L1 (neu 1855 II), C/1858 L1 (yr un yma), a C/1864 R1 (neu 1864 I)..

Mae Comed Donati, a ddynodwyd yn ffurfiol C/1858 L1 a 1858 VI, yn gomed cyfnod hir a enwyd ar ôl y seryddwr Eidalaidd Giovanni Battista Donati a arsylwodd hi gyntaf ar 2 Mehefin, 1858 . Ar ôl y Gomed Fawr 1811, dyma'r gomed fwyaf disglair a ymddangosodd yn y 19eg ganrif. Hon hefyd oedd y gomed gyntaf i gael ei ffotograffio. Ni fydd y gomed i'w weld o'r Ddaear eto am 1600 blwyddyn.

Darganfyddiad ac arsylwadau[golygu | golygu cod]

Donati, darganfyddwr y gomed.
Diagram ar gyfer lleoli'r gomed, wedi'i argraffu wythnos cyn y dynesiad agosaf.

Arsylwodd Donati y gomed gyntaf ar 2 Mehefin o Arsyllfa Fflorens: roedd yn weladwy i ddechrau fel gwrthrych bach tebyg i nifiwl o faint 7 ger "pen" cytser Leo.[1] [2] Erbyn canol mis Awst roedd wedi dod yn ddigon gloyw i fod yn weladwy i'r llygad noeth. [3]

Ym mis Medi fe'i trosglwyddwyd i gytser yr Arth Mawr. Am lawer o'i ymddangosiad roedd mewn safle unigryw (ymhlith comedau mawr) yn yr awyr [3]

Roedd yn agosaf at y Ddaear ar 10 Hydref, 1858, ac am ran helaeth o fis Hydref roedd yn wrthrych gloyw iawn gyda chynffon lwch hir, tebyg i gleddyf pengam gyda chynffon nwy amlwg. Parhaodd yn wrthrych llygad noeth hyd Dachwedd i arsylwyr Hemisffer y De. [3] William Mann, prif gynorthwyydd yr Arsyllfa Frenhinol, Penrhyn Gobaith Da, oedd yr olaf i'w gweld, a'i canfu fel niwliogrwydd gwan ar 4 Mawrth, 1859. [4]

Yn ystod ei ymddangosiad astudiwyd y gomed yn arbennig gan y seryddwr George Phillips Bond a'i dad William Cranch Bond. Cyhoeddodd G P Bond ei sylwad, sylwadau ei dad ynghyd a sylwadau llawer o seryddwyr eraill mewn monograff, "An Account of the Great Comet of 1858 ", ei waith gwyddonol pwysicaf. Dyfarnwyd iddo Fedal Aur y Gymdeithas Seryddol Frenhinol, am y gwaith, yr Americanwr cyntaf i dderbyn y wobr. [5]

Ffotograffau o'r gomed[golygu | golygu cod]

Tynnwyd llun llwyddiannus o Gomed Donati ar 27 Medi gan W. Usherwood, ffotograffydd portreadau yn Walton-on-the-Hill, Swydd Surrey, gan ddefnyddio datguddiad 7 eiliad gyda lens portread f / 2.4, y tro cyntaf i gomed gael ei ffotograffio. [6] Roedd ffotograff Usherwood, nad yw wedi goroesi, yn dangos y rhanbarth llachar o amgylch cnewyllyn y gomed a rhan o'r gynffon. Llwyddodd G P Bond hefyd i dynnu llun y gomed ar 28 Medi yn Arsyllfa Coleg Harvard, y ffotograff comed cyntaf trwy delesgop. Gwnaeth sawl ymgais gydag amseroedd amlygiad cynyddol. Ysgrifennodd yn ddiweddarach, "dim ond y cnewyllyn ac ychydig o'r niwliogrwydd 15" mewn diamedr a weithredodd ar y plât mewn datguddiad o chwe munud ". [7]

Cyfrifiadau orbitol[golygu | golygu cod]

Cyfrifwyd orbitau diffiniol y gomed gan Friedrich Emil von Asten a George William Hill, yr olaf yn seiliedig ar bron i 1000 o safleoedd. [8] Roedd gan y gomed ogwydd orbitol o 116.9°. Oherwydd ei orbit eliptig hir, amcangyfrifir na fydd Comet Donati i'w weld yn mynd heibio i'r Ddaear eto tan y 4ydd mileniwm: cyfrifodd Asten dyddiad perihelion o Fedi 3738 a chyfnod orbitol o 1880 o flynyddoedd, ac awgrymodd Hill Medi 3808 a chyfnod o 1950 o flynyddoedd. [8]

Mewn celf a diwylliant[golygu | golygu cod]

William Turner o Rydychen 1859 Donati's Comet
Ysbrydolodd Comed Donati nifer fawr o artistiaid, megis James Poole .

Ystyrir Comed Donati yn un o'r comedau harddaf a welwyd erioed. [9] Hi oedd un o'r comedau ddisgleiriaf y ganrif. Gwnaeth argraff gref ar artistiaid ac ar y cyhoedd.[10] Ar ôl cyfnod blaenorol o hysteria ar destun comedau, yn enwedig ym Mharis (a achoswyd yn rhannol gan amcangyfrif anghywir gan John Russell Hind a awgrymodd y byddai un yn taro'r Ddaear ym mis Mehefin 1857) aeth Comet Donati ymlaen i fod yr un a arsylwyd arni fwyaf yn y ganrif, oherwydd ei welededd gwych yn yr awyr dywyll i wylwyr Hemisffer y Gogledd, yn enwedig yn Ewrop, a thywydd braf ym mis Medi a mis Hydref. [11] Yr oedd William Henry Smyth, seryddwr o Loegr, yn ei gofio fel " un o'r gwrthrychau harddaf a welais erioed " . [11] Gwnaeth Donati, a oedd gynt yn ffigwr cymharol anadnabyddus, yn arwr y byd seryddol, a helpodd y gomed i feithrin brwdfrydedd cyffredinol am seryddiaeth ymhlith y cyhoedd. [12]

Mae Comed Donati yn ymddangos fel seren cynffonog yn awyr gynnar y noswaith mewn paentiad gan William Dyce, Pegwell Bay, Kent – a Recollection of October 5th 1858. [13] Cafodd sylw mewn nifer o frasluniau ac o leiaf un paentiad gan William Turner o Rydychen, ac mewn paentiad, "The Comet of 1858, as seen from the Heights of Dartmoor", gan Samuel Palmer. Ysgrifennodd Thomas Hardy ei gerdd The Comet at Yell'ham, ym 1902 am ei atgof o weld Comed Donati . [14] Ysgrifennodd Gwilym Marles cyfres o dribannau Morgannwg ar y testun Comed 1858.[15]

Yn ei gofnodion o Ynysfor Malay, mae'r naturiaethwr Cymreig Alfred Russel Wallace yn ysgrifennu am weld y gomed ym mis Hydref 1858 oddi ar ynys Tidore yn Indonesia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "THE COMET - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1858-10-29. Cyrchwyd 2023-07-09.
  2. Stoyan, Atlas of Great Comets, CUP, 2015, p.126
  3. 3.0 3.1 3.2 Bortle, The Bright Comet Chronicles, harvard.edu, adalwyd 09-07-2023
  4. Kronk, Cometography, v.2, p.273
  5. Trimble et al. (eds), Biographical Encyclopedia of Astronomers, 2007, p.147
  6. Kronk, Cometography, v.2, p.270
  7. The Earliest Comet Photographs, SAO/NASA Astrophysics Data System, https://journals.sagepub.com/doi/abs/10.1177/002182869602700202, adalwyd 9 Gorffennaf, 2023
  8. 8.0 8.1 Kronk, Cometography, v2, p.275
  9. Burnham, Great Comets, 2000, p.69
  10. "YCOMED - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1858-10-13. Cyrchwyd 2023-07-09.
  11. 11.0 11.1 Stoyan, 2015, p.127
  12. Gasperini, "The worldwide impact of Donati’s comet on art and society in the mid-19th century", Proceedings of IAU Symposium 2011, 340
  13. Rothstein, Edward.
  14. Gasperini, 2011, 343
  15. Edwards, Owen Morgan, gol. (1905). Comed 1858-Gwaith Gwilym Marles . Llanuwchllyn: Ab Owen. tt. 49–53.