Colslo

Oddi ar Wicipedia
Colslo
Mathsalad Edit this on Wikidata
GwladYr Iseldiroedd Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBresychen Edit this on Wikidata
Enw brodorolColeslaw Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Colslo bresych coch
Coloslo byr-bryd nodweddiadol mewn dysgil gyda sglodion a chig
Krautsalat yn Munich, Almaen

Mae colslo (weithiau colslô; Saesneg: coleslaw neu, weithiau'n anffurfiol slaw) yn salad a wneir yn bennaf o stribedi o fresych.[1] Gellir hefyd gynnwys moron a chynhwysion eraill, fel ffrwythau a llysiau, afal, winwns, pupur a gwahanol sbeisys. Caiff y cynhwysion eu cymysgu fel rheol ym Mhrydain ag olew olewydd hufen salan neu mayonnaise.[2]

Hanes ac Etymoleg[golygu | golygu cod]

Mae'r term "coleslaw" yn ymddangos yn yr 17g fel Seisnigiad o'r term Iseldireg "koolsla", ffurf gryno o "koolsalade", sy'n golygu "salad bresych".[3] Nododd llyfr coginio o 1770, The Sensible Cook: Dutch Foodways in the Old and New World rysait a briodolwyd i berchennog tŷ Iseldireg yr awdures, oedd yn cymysgu stribedi o fresych gyda menyn toddedig, finegr, ac olew. Mae'r rysait ar gyfer colslo yn un cymharol ifanc gan na ddyfeisiwyd mayonnaise nes ganol 18g.

Mae'r gair "kool" yn Iseldireg yn gytras â'r Saesneg "caul" yn "cauliflower" a "kale" o "cale" ac, sydd ei hun, yn perthyn i'r gair Cymraeg "cawl" [4] a'r lle "Porthcawl". Daw'r gair yn wreiddiol i'r Lladin, caulis - coesyn planhigyn, bresych.[5]

Y gair Almaeneg yw Krautsalad sy'n golygu union yr un peth - salad bresych. Ceir sawl amrywiaeth ar krautsalad yn y byd Almaeneg. Yn ardal De Tirol, gwneinir colslo cynnes gydag ham.

Amrywiadau[golygu | golygu cod]

Mae yna amryw o wahanol fathau o golslo. Gall gynnwys bresych neu binafal. Mae rhai ryseitiau'n cynnwys indrawn a finegr.[6]

Yn gyffredinol, mae coleslaw yn cael ei fwyta fel pryd cyfeiliant gyda bwydydd barbeciw, sglodion a chyw iâr wedi'i ffrio. Gall hefyd fod yn gynhwysyn brechdan neu ei weini â mwstard chili a sbeislyd. Ceir amrywiad o colslo a wneir gyda finegr ac olew yn aml yn cael ei roi gyda pizza yn Sweden.

Mae amrywiad o colslo gan gynnwys gyda chaws sewyrllys. Gall hefyd gynnwys caws, winwnsyn a hufen salad. Mae amrywiad arall, ceir colslo brocoli sy'n defnyddio brocoli amrwd yn hytrach na bresych.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Coleslaw." (definition.) Merriam-webster.com. Adalwyd Awst 2011.
  2. https://llawndaioni.cymru/tag/colslo/
  3. Perelman, Deb. (2007-08-08) "Coleslaw: You Could Be a Star". NPR, adalwyd 24 Mehefin 2009.
  4. http://geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html
  5. https://www.online-latin-dictionary.com/latin-english-dictionary.php?parola=caulis+
  6. ABC News, 5 Mehefin 2009. Coleslaw is also a traditional AVEN member. "Lexington Red Slaw Archifwyd 2014-02-03 yn y Peiriant Wayback." WLS-TV/DT Chicago, IL. Adalwyd 24 Mehefin 2009.