Coleg yr Iesu, Caergrawnt

Oddi ar Wicipedia
Coleg yr Iesu, Prifysgol Caergrawnt
Arwyddair Prosperum iter facias
Enw Llawn Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt
Sefydlwyd 1496
Enwyd ar ôl Capel yr Iesu
Lleoliad Jesus Lane, Caergrawnt
Chwaer-Goleg Coleg yr Iesu, Rhydychen
Prifathro Ian White
Is‑raddedigion 489
Graddedigion 270
Gwefan www.jesus.cam.ac.uk
Gweler hefyd Coleg yr Iesu (gwahaniaethu).

Un o golegau cyfansoddol Prifysgol Caergrawnt yw Coleg yr Iesu (Saesneg: Jesus College). "Coleg y Fendigaid Forwyn Fair, Sant Ioan yr Efengylydd a'r Forwyn Ogoneddus y Santes Radegunda y tu mewn i Dref a Phrifysgol Caergrawnt" yw ei enw llawn; mae ei enw cyffredin yn dod o enw ei gapel, Capel yr Iesu.

Capel yr Iesu[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd Capel yr Iesu ym 1157 a chafodd ei gwblhau ym 1245. Credir mai'r capel yw adeilad hynaf y brifysgol sydd yn dal mewn defnydd. Yn wreiddiol roedd yn Gwfaint Benedictaidd y Santes Fair a'r Santes Radegunda, a gafodd ei ddiddymu gan John Alcock, Esgob Ely yn y 15g.

Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.