Cofiant y parchedig Henry Rees, yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau

Oddi ar Wicipedia

Mae Cofiant y parchedig Henry Rees, yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau, gan Owen Thomas yn gofiant a gyhoeddwyd gan Hughes a'i Fab, Wrecsam mewn dwy gyfrol ym 1890.[1][2]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfrol yn adrodd hanes Henry Rees (15 Chwefror 1798 - 18 Chwefror 1869), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur ar bynciau diwinyddol. Mae'r gyfrol gyntaf yn ymwneud a'i fywyd o'i enedigaeth hyd 1854 a'r ail gyfrol yn mynd o 1855 hyd ei farwolaeth.[3]

Cynnwys[golygu | golygu cod]

Mae'r cofiant yn cychwyn trwy sôn am hynafiaid, rhieni a theulu Rees cyn mynd ymlaen i sôn am ei ieuenctid ei addysg a'i swydd gyntaf yn gweithio ar y tir gyda'i dad. Mae disgrifiad yn cael ei roi am ymwneud cyntaf Rees efo bywyd crefyddol a sut y daeth yn weithgar yn y capel trwy gychwyn fel athro ysgol Sul. Wedi cael swydd fel gwas ffarm gan y Parch Thomas Jones (Dinbych) mae'n cael ei annog i ddechrau pregethu gan ei feistr. Mae'r rhan fwyaf o'r cyfrolau yn sôn am deithiau pregethu Rees trwy Gymru, Lloegr, yr Unol Daleithiau yr Almaen a Llydaw a'i gyfnod fel gweinidog yn Lerpwl. Mae copi digidol o'r llyfr ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[4]

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae rhif penodau'r ail gyfrol yn olynol i rif penodau'r gyfrol gyntaf, ac yn dechrau efo pennod 12

  1. Bore ei oes
  2. Blynyddoedd Cyntaf ei Ieuenctid : 1812 — 1816
  3. Gadael tŷ ei dad a myned i gymdogaeth y Betws, Abergele : 1816—1819.
  4. O'r pryd y dechreuodd bregethu nes y gadawodd yr ysgol yn Abergele : 1819 — 1821
  5. O'i fynediad i'r Amwythig , hyd ei Neilltuad i'r holl waith : 1821—1827.
  6. O'i Ordeiniad hyd ei ymadawiad i'r Amwythig : 1827 — 1836.
  7. O'i Symudiad i Liverpool hyd ei ymweliad ag America
  8. Ei Ymweliad ag America, a'i Deithiau yno : 1839
  9. O'i ddychweliad o'r America, hyd aflwyddiant y cais arno i adael Liverpool ;— 1839— 1841.
  10. Agoriad Athrofa Trefeca, hyd y cyfro fawr yng nghylch Addysg Ddyddiol : 1842- 1847.
  11. Gymdeithasfa Liverpool, 1847, hyd Gymdeithasfa Caernarfon, 1854.
  12. Blynyddoedd pryder teuluaidd ac eglwysig : 1855 — 1861
  13. O ddechrau y flwyddyn 1862, hyd y Gymanfa Gyffredinol gyntaf yn Abertawe, 1864.
  14. O'i ymweliad a Llydaw hyd ei ymweliad a Hastings, ar ôl cystudd trwm: 1864— 1867.
  15. O'i ddychweliad o Hastings, hyd ei gystudd diweddaf a'i farwolaeth : 1867— 1869.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Thomas, Owen (1890). Cofiant y parchedig Henry Rees, yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau. 1. Wrecsam: Hughes a'i fab.
  2. Thomas, Owen (1890). Cofiant y parchedig Henry Rees, yn cynnwys casgliad helaeth o'i lythyrau. 2. Wrecsam: Hughes a'i Fab.
  3. "REES, HENRY (1798 - 1869), gweinidog enwocaf y Methodistiaid Calfinaidd yn ei gyfnod | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-28.
  4. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-11-27.