Cnocell Werdd
Oddi ar Wicipedia
| Cnocell Werdd | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Piciformes |
| Teulu: | Picidae |
| Genws: | Picus |
| Rhywogaeth: | P. viridis |
| Enw deuenwol | |
| Picus viridis (Linnaeus, 1758) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Picidae, y cnocellod, yw'r Gnocell Werdd (Picus viridis). Mae'n nythu trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gorllewin Asia. Ceir pedwar is-rywogaeth.
Cnocell weddol fawr o ran maint yw'r Gnocell Werdd, tua 30-36 cm o hyd a 45-51 cm ar draws yr adenydd. Fel yr awgryma'r enw, aderyn gwyrdd ydyw, gyda gwyrdd-felyn goleuach ar y bol. Mae'n byw mewn coedwigoedd bychain gyda gwrychoedd a thir agored gerllaw; ac mae poblogaeth dda o forgrug yn bwysig iddo. I nythu, mae'n torri twll hyd at droedfedd o ddyfnder mewn pren marw neu feddal, twll mwy na'r rhan fwyaf o'r cnocellod eraill.
Ceir niferoedd sylweddol o'r gnocell yma yng Nghymru, er ei fod yn llai cyffredin na'r Gnocell Fraith Fwyaf.