Clustlys blaenbwl
Clustlys blaenbwl Diplophyllum obtusifolium | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Diplophyllum |
Rhywogaeth: | D. obtusifolium |
Enw deuenwol | |
Diplophyllum obtusifolium |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Clustlys blaenbwl (enw gwyddonol: Diplophyllum obtusifolium; enw Saesneg: blunt-leaved earwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon yn fwy cyffredin yng Nghymru nag unrhyw wlad arall ym Mhrydain.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Mae'r dail uchaf fel arfer i'w gweld yn geugrwm, trwy lens law, ac mae hyn yn golygu ei bod yn hawdd eu hadnabod. Fel arfer, mae'n wyrdd-golau. Yn aml iawn, mae'n ymddangos ei fod yn blanhigyn gyda dail yn pwyntio at un pwynt canolog. Gall y coesynnau dyfu hyd at tua 2 mm o led ac mae'r organau gwryw a benyw ar yr un coesyn.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.