Christine Jorgensen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Yr unigolyn enwog cyntaf i dderbyn llawdriniaeth ailgyfeirio rhyw (yn ei hachos hi, gwryw i fenyw) oedd Christine Jorgensen (ganwyd George William Jorgensen, Jr. 30 Mai, 1926 yn The Bronx, Dinas Efrog Newydd, UDA; bu farw 3 Mai, 1989).[1]

Ym 1950 teithiodd Jorgensen i Ddenmarc lle cafodd ei archwilio gan y Dr Christian Hamburger gyda'r nod o ddeiagnosio'i rhyw a rhoi triniaeth trawsrywiol. Yn dilyn llawdriniaeth i'w newid yn fenyw fiolegol, fe ddaeth Jorgensen dan sylw'r cyhoedd a chyfryngau Americanaidd, a dychwelodd i enwogrwydd yn yr Unol Daleithiau.

Am flynyddoedd darlithiodd Jorgensen ar ei phrofiad ac hefyd ar drawsrywioldeb, yn enwedig ei statws fel ffenomen ar wahân i groeswisgo a chyfunrywioldeb. Ym 1967 cyhoeddwyd ei hunangofiant hi, Christine Jorgensen: A Personal Autobiography.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. (Saesneg) Hadjimatheou, Chloe (30 Tachwedd 2012). Christine Jorgensen: 60 years of sex change ops. BBC. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2012.

Dolenni allanol[golygu]